Ein hymrwymiad i siaradwyr Cymraeg
- Crynodeb
- Beth yw Safonau’r Gymraeg?
- Ein hymrwymiad i siaradwyr Cymraeg
- Pa feysydd o'n gwaith sy'n cael eu cynnwys yn y safonau?
- Negeseuon e-bost a llythyrau
- Galwadau ffôn
Rydym yn ymrwymedig i wella ein darpariaeth Gymraeg yn unol â’r hysbysiad cydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd cydymffurfiaeth yn ein helpu i wella lefel y gwasanaethau Cymraeg y gall aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgwyl eu derbyn gennym.
Fel rhan o'n hymrwymiad i'r safonau, byddwn yn ymdrechu i neilltuo swm rhesymol a chymesur o adnoddau gweithredol a gwybodaeth i ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, gan gefnogi ein staff i gyflawni'r dasg hon.
Wrth ystyried sut i fodloni'r safonau, rydym hefyd yn cydbwyso ein cyfrifoldeb i gydymffurfio â'n cyfrifoldebau deddfwriaethol eraill, fel y'u diffinnir yn y Ddeddf Feddygaeth a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Nid yw pob agwedd ar ein gwaith o fewn cwmpas y safonau. Fodd bynnag, pan fydd gwasanaeth o fewn y cwmpas, rydym yn ymrwymedig i gymhwyso egwyddor cydraddoldeb drwy beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.