1. Home
  2. Hearings and decisions
  3. Hearing types and how they work
  4. Appeals

Pwy all apelio?

Y meddyg

Os bydd tribiwnlys yn canfod bod amhariad ar unrhyw feddyg, gall y meddyg hwnnw apelio o dan Adran 40 Deddf Meddygaeth 1983 (diwygiwyd). Rhaid i’r apêl gael ei ffeilio o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r meddyg gael ei hysbysu o benderfyniad y tribiwnlys.

Gall meddyg hefyd herio unrhyw benderfyniad arall, fel rhybudd, drwy adolygiad barnwrol.

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)

Gall y GMC apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan dribiwnlys ymarferwyr meddygol.

Mae gan y GMC y pŵer i apelio os yw o’r farn nad yw canlyniad y gwrandawiad yn ddigonol ar gyfer diogelu’r cyhoedd, sef amcan cyffredinol y Cyngor Meddygol Cyffredinol.  

Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA)

Gall yPSA atgyfeirio penderfyniad tribiwnlys ymarferwyr meddygol i’r llys. Gall y PSA wneud hyn os yw’n credu nad yw’r penderfyniad yn ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd.

I ble y gwneir apeliadau?

Yn dibynnu ar gyfeiriad cofrestredig y meddyg, gwneir apeliadau i’r canlynol:

  • Llys y Sesiwn yn yr Alban
  • Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon
  • Uchel Lys Cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr

Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998 sy’n rheoli apeliadau.

Beth all ddigwydd mewn gwrandawiad apêl llys?

Os bydd achos yn mynd ymlaen i wrandawiad mewn llys, gall y barnwr wneud y canlynol:

  • gwrthod yr apêl
  • caniatáu’r apêl, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, a diddymu’r penderfyniad perthnasol
  • disodli’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn ag unrhyw benderfyniad arall y gellid bod wedi’i wneud gan y tribiwnlys
  • atgyfeirio’r achos at Gofrestrydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol er mwyn iddo ei atgyfeirio at dribiwnlys ymarferwyr meddygol i waredu’r achos yn unol â chyfarwyddiadau’r llys.