Cael gafael ar wybodaeth
Yn aml, mae’n gyflym ac yn hawdd cael gafael ar ein gwybodaeth drwy anfon cais anffurfiol atom. Cysylltwch â ni i ofyn am gael gafael ar ein gwybodaeth.
Eich hawliau cyfreithiol i gael gafael ar wybodaeth
Weithiau, allwn ni ddim rhoi’r wybodaeth i chi drwy ein prosesau arferol. Fodd bynnag, mae deddfau sy'n rhoi hawliau i chi ofyn am gael gafael ar wybodaeth.
Bydd tîm Mynediad at Wybodaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn delio ag unrhyw gais a wnewch i ni o dan y canlynol:
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Darllenwch ganllaw Mynediad at wybodaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol i ddarllen rhagor o wybodaeth am wneud cais o dan y deddfau hyn.