1. Home
  2. Cymraeg

Croeso i'r MPTS

Mae Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) yn cynnal gwrandawiadau sy’n gwneud penderfyniadau annibynnol ynghylch a yw meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn addas i ymarfer yn y DU. Mae’n gweithredu ar wahân i rôl ymchwilio’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Gall ei dribiwnlysoedd osod amodau ar bractis meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, neu eu hatal rhag gweithio yn y DU.

Read this in English

Beth rydyn ni'n ei wneud

Dysgwch fwy am ein rôl a sut rydym yn gweithio.


Safonau'r Gymraeg

Rydym yn ymrwymedig i wella ein darpariaeth Gymraeg yn unol â’r hysbysiad cydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd cydymffurfiaeth yn ein helpu i wella lefel y gwasanaethau Cymraeg y gall aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ddisgwyl eu derbyn gennym.

Cysylltu â ni

Rydym yn gwybod weithiau y bydd angen i chi gysylltu â ni. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r person iawn i’ch helpu. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb i hyn beri oedi ychwanegol.