Canllaw i dystion ar gyfer gwrandawiadau
Mae eich rôl mewn gwrandawiad yn hollbwysig. Bydd eich barn uniongyrchol yn helpu’r tribiwnlys i wneud ei benderfyniad.
Yn y canllaw hwn, byddwn yn egluro’r gwrandawiad i chi gam wrth gam er mwyn eich cefnogi.
Dyma’r wybodaeth y byddwch yn ei chael:
- y cymorth sydd ar gael i chi
- yr hyn sy’n digwydd yn ystod y dydd
- yr hyn sy’n digwydd yn ystod y dydd
- beth fydd yn digwydd ar ôl y gwrandawiad.
Ac os ydych chi eisiau cael sgwrs, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Cymorth Annibynnol ar 0300 303 3709 i gael cymorth annibynnol yn rhad ac am ddim.
Sut bydd y canllaw hwn yn eich helpu
Byddwch yn deall eich rôl chi mewn gwrandawiad. Rydym yn ymdrin â phopeth, gan gynnwys sut i roi tystiolaeth a’r cymorth ychwanegol sydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae’r canllaw hwn
Mae’r canllaw hwn ar gyfer tystion lle mae gofyn iddynt roi tystiolaeth mewn gwrandawiad