Preifatrwydd a Chwcis
Hysbysiad preifatrwydd MPTS
Ein nod yw bod yn agored ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Trosolwg cyffredinol o sut rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd yma, ond rydym hefyd yn darparu gwybodaeth fanylach os yw hynny’n briodol, er enghraifft pan fyddwn yn casglu data.
Mae’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) yn un o bwyllgorau statudol y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Rydym yn atebol i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a Senedd y DU. Rydym yn gweithredu ar wahân i rôl ymchwilio’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ond y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw’r rheolydd data o hyd ar gyfer y data personol rydym yn ei brosesu.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau fel rheolydd data o ddifri, ac rydym wedi ymrwymo i gadw gwybodaeth yn ddiogel. Rydym wedi ein hachredu i safonau diogelwch gwybodaeth rhyngwladol, ac rydym yn diogelu ein seilwaith TG yn unol â safonau’r diwydiant ac arferion da.
Gwybodaeth am wrandawiadau tribiwnlys a sancsiynau
Pam rydym yn cadw’r wybodaeth
O dan Ddeddf Meddygaeth 1983 a Gorchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024 (AAPAO), mae’n ofynnol i ni gael gwybodaeth er mwyn penderfynu a oes amhariad neu nam ar addasrwydd meddyg, cydymaith meddygol (PA) neu gydymaith anesthesia (AA) i ymarfer.
Rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ein llywodraethu.
Ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau ar-lein.
Beth rydym yn ei gadw
Rydym yn dal gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd. Rydym yn dal gwybodaeth am gleifion, gan gynnwys cofnodion meddygol, pan fo wedi cael ei darparu fel rhan o’r penderfyniad. Rydym yn dal gwybodaeth am iechyd unigolion cofrestredig ac euogfarnau troseddol pan fo hynny’n berthnasol i’r pryder rydym yn ei ystyried.
Mae gennym y pŵer i fynnu bod cofnodion meddygol yn cael eu datgelu os oes angen.
Sut rydym yn ei rannu
Mae’r Ddeddf Meddygaeth a’r Gorchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol yn mynnu ein bod yn rhannu gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd mesurau interim a gwrandawiadau tribiwnlysoedd gyda chyflogwyr a’r Adran Iechyd.
Rydym yn cyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan, ac mewn rhai achosion ar y cofrestrau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, ym mholisi’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyhoeddi a datgelu.
Rydym yn datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Plant a Grwpiau Hyglwyf 2006.
Rydym yn rhannu penderfyniadau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon.
Mae gennym gontractau gyda sefydliadau eraill (neu drydydd partïon) i gyflawni gweithgareddau neu wasanaethau penodol ar ein rhan. Os oes angen i ni rannu gwybodaeth â’r sefydliadau eraill, rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y canllawiau canlynol:
- dim ond yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r gwasanaeth
- cytuno i beidio â defnyddio’r wybodaeth a geir gennym at unrhyw ddiben arall heblaw’r rhai a nodir gennym ni
- bod â systemau priodol ar waith i ddiogelu data personol.
Ymgynghoriadau
Beth rydym yn ei gadw
Rydym yn cynnal ymgynghoriadau ar amrywiaeth o bynciau yn gysylltiedig â’n swyddogaethau rheoleiddio. Fel rhan o’r broses, rydym yn cofnodi enwau a gwybodaeth gyswllt yr ymatebwyr, yn ogystal â’u hatebion.
Pam rydym yn cadw’r wybodaeth
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn i ni allu ymchwilio a dadansoddi’r ymatebion, a chadw mewn cysylltiad ag ymatebwyr ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad. Rydym yn gofyn i ymatebwyr am eu cyfeiriadau e-bost er mwyn i ni allu cadarnhau eu bod wedi cofrestru ar ein safle ymgynghori, cysylltu â nhw os ydynt yn anghofio eu cyfrinair a rhoi gwybod iddynt am unrhyw ymgynghoriadau sydd ar y gweill sy’n cyd-fynd â’u diddordebau, pan ydynt wedi gofyn i ni wneud hynny.
Sut rydym yn ei rannu
Ar ddiwedd y broses ymgynghori, byddwn yn cyhoeddi adroddiadau yn egluro ein canfyddiadau a’n casgliadau. Ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn yr adroddiadau hyn, ond mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys dyfyniadau enghreifftiol o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn darparu ymatebion i drydydd partïon ar gyfer sicrhau ansawdd neu i brosiectau ymchwil cymeradwy, sy’n cael eu troi’n ddienw cyn eu datgelu lle bo hynny’n bosibl.
Cyfnodau cadw ar gyfer data personol
Mae ein hamserlen cadw cofnodion yn egluro am ba hyd y byddwn ni'n cadw data personol.
Mae gennych chi hawl o dan ddeddfwriaeth diogelu data i gael mynediad at yr wybodaeth sydd gennym amdanoch ac i’w rheoli, er bod eithriadau i’r hawliau hynny hefyd. Isod, ceir gwybodaeth am eich hawliau a manylion am beth i'w wneud os oes gennych gwestiwn.
Cael gafael ar eich data
Mae gennych chi hawl i ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch. I wneud hyn, gallwch anfon e-bost at dîm Mynediad at Wybodaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol: FOI@gmc-uk.org.
Byddwn yn ymateb o fewn mis fel arfer, ond os yw’r cais yn gymhleth neu’n cynnwys llawer iawn o ddata, mae gennym hyd at dri mis i ymateb.
Nid oes ffi am wneud cais fel arfer, ond mae gennym ni hawl i ofyn am ffi os yw’r cais yn ddi-sail neu’n ormodol.
Mewn rhai achosion, nid oes rhaid i ni ddarparu copi o’r data oherwydd bod eithriad yn berthnasol. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd y canlynol:
- mae'r data hefyd yn ddata personol i berson arall ac ni fyddai'n rhesymol ei ddatgelu i chi heb gydsyniad y person hwnnw byddai datgelu’r data yn niweidio ein swyddogaethau rheoleiddio, er enghraifft drwy ei gwneud yn anodd i ni gynnal ymchwiliad teg i addasrwydd i ymarfer
- byddai datgelu eich data yn amharu ar gynnal ymchwil gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu ar ei ran.
Rheoli'r modd rydym yn defnyddio eich data
Mae gennych hawl o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i reoli’r modd rydym yn defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei ddileu neu gyfyngu ar sut rydym yn ei ddefnyddio. I wneud hyn, gallwch chi anfon e-bost i DPO@gmc-uk.org.
Ond rydym eisiau i chi fod yn ymwybodol o rai eithriadau. Os ydym yn defnyddio eich data i gyflawni ein swyddogaethau statudol, does dim rhaid i ni ddileu gwybodaeth bersonol. Y rheswm am hyn yw oherwydd mae sail gref o ran budd y cyhoedd a diogelwch cleifion i ni brosesu data personol sydd ei angen arnom i gyflawni ein rôl.
Nid oes rhaid i ni ddileu gwybodaeth na rhoi’r gorau i’w defnyddio at ddibenion ymchwil, os byddai gwneud hynny’n amharu ar ein hamcanion ymchwil.
Ein manylion cyswllt
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw’r rheolydd data ar gyfer y gwaith prosesu a ddisgrifir yn y polisi hwn. Y Swyddog Diogelu Data yw Andrew Ledgard. Gallwch chi hefyd gysylltu â’n Swyddog Preifatrwydd Data drwy anfon e-bost i DPO@gmc-uk.org.
Mae ein polisi diogelu data ar gael hefyd.
Cwynion
Os ydych chi'n anhapus â’r ffordd rydym wedi delio â’ch cwyn, mae gennych chi hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Cewch ragor o wybodaeth am hyn yn www.ico.org.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith. Sylwch y bydd eich defnydd o’r safleoedd hyn yn amodol ar delerau ac amodau pob un. Darllenwch eu hysbysiad preifatrwydd a hysbysiad cwcis yn ofalus, a gwiriwch eich gosodiadau personol lle bo hynny'n briodol i wneud yn siŵr eich bod yn hapus ynglŷn â sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y safle cyfryngau cymdeithasol. Nid ydym yn mynd ati i gasglu data rydych yn ei gyflwyno i unrhyw wefannau trydydd parti, ond mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth gyfunol (nad yw’n eich adnabod chi) i’n helpu i fonitro mynediad at ein cynnwys.
Data a dadansoddeg ein gwefan
Google Analytics a Webtrends
Rydym yn defnyddio Google Analytics a Webtrends (ar gyfer ein hen wefannau/microwefannau) i fonitro’r defnydd o wefannau. I gael gwybod sut i optio allan o gael eich olrhain gan gynhyrchion Google, ewch i dudalen diogelu eich data gan Google.
Fel rhan o Google Analytics, rydym wedi galluogi nodweddion Google Advertising. Mae’r nodweddion hyn yn ein galluogi i weld gwybodaeth ddemograffig gyffredinol am ein defnyddwyr, fel grŵp oedran, rhywedd, categorïau diddordeb, ac ati. I optio allan o gael eich tracio ar Rwydwaith Hysbysebu Google, ewch i dudalen Gosodiadau Hysbysebion Google.
Hotjar
Rydym yn defnyddio Hotjar i ddeall yn well beth yw anghenion ein defnyddwyr ac i wneud y gorau o’r gwasanaeth a’r profiad. Mae Hotjar yn wasanaeth technolegol sy’n ein helpu i ddeall profiad ein defnyddwyr yn well (ee faint o amser mae pobl yn ei dreulio ar ba dudalennau, pa ddolenni maen nhw’n dewis clicio arnynt, beth maen nhw’n ei wneud a ddim yn ei hoffi, ac ati). Mae hyn yn ein helpu i adeiladu a chynnal ein gwasanaeth gydag adborth gan ddefnyddwyr.
Mae Hotjar yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill i gasglu data am ymddygiad ein defnyddwyr a’u dyfeisiau, yn enwedig cyfeiriad IP y ddyfais (a gaiff ei gofnodi a’i storio ar ffurf ddienw yn unig), maint sgrin dyfais, math o ddyfais (dynodwyr dyfais unigryw), gwybodaeth am y porwr, lleoliad daearyddol (gwlad yn unig), a’r ddewis iaith a ddefnyddir i arddangos ein gwefan. Mae Hotjar yn storio’r wybodaeth hon mewn proffil defnyddiwr â ffugenw. Ni fydd Hotjar na ninnau yn defnyddio’r wybodaeth hon i adnabod defnyddwyr unigol nac i’w chyfateb â data pellach ar ddefnyddiwr unigol. I gael rhagor o fanylion, edrychwch ar bolisi preifatrwydd Hotjar.
Gallwch optio allan o greu proffil defnyddiwr, optio allan o adael i Hotjar storio data am eich defnydd o’n gwefan ac optio allan o adael i Hotjar olrhain cwcis ar wefannau eraill, drwy ddilyn y ddolen hon ar gyfer optio allan o Hotjar.
Trydydd partïon
Rydym yn gweithio gyda Mando, ein partner asiantaeth ddigidol, i wella eich profiad digidol gyda ni’n barhaus. O ganlyniad, mae ganddynt fynediad at ein cyfrifon Google Analytics a Hotjar fel Prosesydd Data, sy’n rhoi cyngor ar sut i wella profiad ein defnyddwyr.
Cwcis
Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am eu gwneud yn hawdd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan fo gwasanaethau’n cael eu darparu dros y rhyngrwyd, mae hyn yn golygu weithiau fod angen gosod rhywfaint o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys ffeiliau bach o'r enw cwcis. Does dim modd defnyddio cwcis i’ch adnabod chi’n bersonol. Ond mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwn yn cofnodi cyfeiriad IP eich cyfrifiadur mewn cwci er mwyn i ni allu cofio eich dewisiadau pan fyddwch yn mynd ar ein gwefan.
Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau ar eich cyfer, er enghraifft:
- galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais, fel nad oes rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg
- cydnabod efallai eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair, fel nad oes angen i chi ei roi ar gyfer pob tudalen y byddwch yn mynd iddi
- mesur faint o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn i ni allu eu gwneud yn haws eu defnyddio a gwneud yn siŵr bod digon o gapasiti i’w cynnal
- dadansoddi data dienw i’n helpu i ddeall sut mae pobl yn rhyngweithio â’n gwasanaethau, er mwyn i ni allu eu gwella.
Rydym yn defnyddio dau fath o gwcis: cwcis sesiwn a chwcis parhaus.
Dim ond drwy gydol eich ymweliad â’r wefan y caiff cwcis sesiwn eu storio. Mae’r rhain yn cael eu dileu o’ch dyfais pan fydd eich sesiwn bori’n dod i ben.
Defnyddir cwcis parhaus lle mae angen i ni wybod pwy ydych chi ar gyfer mwy nag un defnydd o sesiwn. Er enghraifft, os ydych chi wedi gofyn i ni gofio dewisiadau fel eich lleoliad neu eich enw defnyddiwr.
Rydym yn rhwym wrth gyfarwyddeb Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig y Gymuned Ewropeaidd (a elwir hefyd yn gyfarwyddeb e-breifatrwydd). Fel rhan o’n dull o gydymffurfio â’r gyfarwyddeb hon, rydym yn awyddus i ddarparu gwybodaeth am y cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefannau isod.
Sut i reoli a dileu cwcis
Os nad ydych chi am i gwcis gael eu storio ar eich dyfeisiau, gallwch addasu gosodiadau eich porwr fel ei fod yn rhoi gwybod i chi pan fydd cwcis yn cael eu hanfon at y ddyfais, ac yn gallu penderfynu a ddylid eu derbyn, neu eu gwrthod yn awtomatig. Gallwch hefyd ddileu cwcis sydd eisoes wedi’u gosod.
Dylai'r swyddogaeth Help yn eich porwr ddweud wrthych sut i wneud hyn. Neu, efallai yr hoffech fynd i www.aboutcookies.org, sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr bwrdd gwaith.
Sylwch y gallai cyfyngu ar gwcis effeithio ar weithrediad ein gwefannau.
Enw | Math o gwci | Gosod gan | Diben |
---|---|---|---|
__cf_bm | 30 munudau | Parti cyntaf | Defnyddir y cwci hwn i wahaniaethu rhwng bodau dynol a bots. Mae hyn yn fuddiol i'r wefan wneud adroddiadau dilys ar y defnydd o'u gwefan. |
__cfruid | Sesiwn | Parti cyntaf | Mae'r cwci hwn yn rhan o'r gwasanaethau a ddarperir gan Cloudflare - Gan gynnwys cydbwyso llwyth, cyflwyno cynnwys gwefan a gwasanaethu cysylltiad DNS ar gyfer gweithredwyr gwefannau. |
__RequestVerificationToken | Sesiwn | Parti cyntaf | Yn helpu i atal ymosodiadau Ffugio Cais Traws-Safle (CSRF). |
ASP.NET_SessionId | Sesiwn | Parti cyntaf | Defnyddir gan ASP.NET i storio dynodwr unigryw ar gyfer eich sesiwn. Nid yw'r cwci sesiwn yn parhau ar eich disg galed. |
BIGipServer | Sesiwn | Parti cyntaf | Defnyddir i ddosbarthu traffig i'r wefan ar sawl gweinydd er mwyn optimeiddio amseroedd ymateb. |
CookieConsent | 1 blwyddyn | Parti cyntaf | Rydym yn defnyddio hyn i gofnodi eich dewisiadau ynghylch a ydych am dderbyn cwcis yn ein categorïau Perfformiad neu Farchnata. Ar ôl blwyddyn byddwn yn gofyn i chi a ydych chi'n hapus i barhau â'ch dewisiadau neu eu newid. |
shell#lang | Sesiwn | Parti cyntaf | Storio iaith gyd-destun y safle cyfredol. Defnyddir gan Sitecore. |
MPTSwebsite#lang | Sesiwn | Parti cyntaf | Defnyddir i gefnogi'r Gymraeg ar ein gwefan. |
cookies_policy | 1 blwyddyn | Parti cyntaf | Rydym yn defnyddio hyn i gofnodi eich dewisiadau ynghylch a ydych am dderbyn cwcis yn ein categorïau Perfformiad neu Farchnata. Ar ôl blwyddyn byddwn yn gofyn i chi a ydych chi'n hapus i barhau â'ch dewisiadau neu eu newid. |
Perfformiad
Enw | Math o gwci | Gosod gan | Diben |
---|---|---|---|
_ga | 2 blynyddoedd | Parti cyntaf | Defnyddir gan Google Analytics. Cofrestru ID unigryw sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae'r ymwelydd yn defnyddio'r wefan. |
_ga_# | 2 blynyddoedd | Parti cyntaf | Fe'i defnyddir gan Google Analytics i gasglu data ar y nifer o weithiau y mae defnyddiwr wedi ymweld â'r wefan yn ogystal â dyddiadau ar gyfer yr ymweliad cyntaf a'r mwyaf diweddar. |
_gid | 1 dydd | Parti cyntaf | Mae Google Analytics yn cofrestru ID unigryw sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae'r ymwelydd yn defnyddio'r wefan. |
_gat | 1 dydd | Parti cyntaf | Defnyddir gan Google Analytics i gyfyngu cyfradd ceisiadau i reoli ceisiadau gweinydd. |
td | Sesiwn | Parti cyntaf | Rheolwr tagiau Google. Cofrestru data ystadegol ar ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Defnyddir ar gyfer dadansoddeg mewnol gan weithredwr y wefan. |
_hjSession_# | 1 dydd | Parti cyntaf | Mae Hotjar yn casglu ystadegau ar ymweliadau'r ymwelydd â'r wefan, megis nifer yr ymweliadau, yr amser cyfartalog a dreulir ar y wefan a pha dudalennau sydd wedi'u darllen. |
_hjSessionUser_# | 1 blwyddyn | Parti cyntaf | Mae Hotjar yn casglu ystadegau ar ymweliadau'r ymwelydd â'r wefan, megis nifer yr ymweliadau, yr amser cyfartalog a dreulir ar y wefan a pha dudalennau sydd wedi'u darllen. |
_hjTLDTest | Sesiwn | Parti cyntaf | Mae Hotjar yn cofrestru data ystadegol ar ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Defnyddir ar gyfer dadansoddeg mewnol gan weithredwr y wefan. |
hjActiveViewportIds | Parhaol | Parti cyntaf | Cwci Hotjar sy'n cynnwys llinyn ID ar y sesiwn gyfredol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth anbersonol ar ba is-dudalennau y mae'r ymwelydd yn eu nodi – defnyddir y wybodaeth hon i wneud y gorau o brofiad yr ymwelydd. |
hjViewportId | Sesiwn | Parti cyntaf | Mae Hotjar yn arbed maint sgrin y defnyddiwr i addasu maint y delweddau ar y wefan. |
#-# | Sesiwn | Trydydd parti | Defnyddir i olrhain rhyngweithio defnyddiwr â chynnwys wedi'i fewnosod. |
Secure-ROLLOUT_TOKEN | 180 dyddiau | Trydydd parti | Ddiddosbarth. |
iU5q-!O9@$ | Sesiwn | Trydydd parti | Cofrestru ID unigryw i gadw ystadegau o ba fideos o YouTube y mae'r defnyddiwr wedi'u gweld. |
LAST_RESULT_ENTRY_KEY | Sesiwn | Trydydd parti | Defnyddir gan YouTube i olrhain rhyngweithio defnyddiwr â chynnwys wedi'i fewnosod. |
LogsDatabaseV2 | Parhaol | Trydydd parti | Defnyddir i olrhain rhyngweithio defnyddiwr â chynnwys wedi'i fewnosod. |
NID | 6 misoedd | Trydydd parti | Cofrestru ID unigryw sy'n nodi dyfais defnyddiwr sy'n dychwelyd. Defnyddir yr ID ar gyfer hysbysebion wedi'u targedu. |
remote_sid | Sesiwn | Trydydd parti | Angenrheidiol ar gyfer gweithredu ac ymarferoldeb cynnwys fideo YouTube ar y wefan. |
TESTCOOKIESENABLED | 1 dydd | Trydydd parti | Defnyddir gan YouTube i olrhain rhyngweithio defnyddiwr â chynnwys wedi'i fewnosod. |
VISITOR_PRIVACY_METADATA VISITOR_INFO1_LIVE |
180 dyddiau | Trydydd parti | Defnyddir gan YouTube i Storio cyflwr caniatâd cwci y defnyddiwr ar gyfer y parth cyfredol. |
YSC | Sesiwn | Trydydd parti | Cofrestru ID unigryw i gadw ystadegau o ba fideos o YouTube y mae'r defnyddiwr wedi'u gweld. |
YtIdbMeta#databases | Parhaol | Trydydd parti | Defnyddir gan YouTube i olrhain rhyngweithio defnyddiwr â chynnwys wedi'i fewnosod. |
yt-remote-cast-available yt-remote-cast-installed yt-remote-fast-check-period yt-remote-session-app yt-remote-session-name |
Sesiwn | Trydydd parti | Storio dewisiadau chwaraewr fideo y defnyddiwr gan ddefnyddio fideo YouTube wedi'i fewnosod. |
yt-remote-connected-devices yt-remote-device-id |
Parhaol | Trydydd parti | Storio dewisiadau chwaraewr fideo y defnyddiwr gan ddefnyddio fideo YouTube wedi'i fewnosod. |
Marchnata
Enw | Math o gwci | Gosod gan | Diben |
---|---|---|---|
ads/ga-audiences | Sesiwn | Trydydd parti | Defnyddir gan Google Ads ar gyfer storio gwybodaeth at ddibenion ail-farchnata. |