1. Home
  2. Disclaimer

Ymwadiad

Defnyddio’r wefan hon

Ein nod yw darparu gwefan sy’n gywir, sy’n ddefnyddiol, sy’n hawdd ei defnyddio, ac sy’n parchu eich preifatrwydd. Isod fe welwch wybodaeth am hawlfraint, dolenni ac argaeledd/amserau mynd. I gael gwybodaeth am breifatrwydd ac am sut rydym yn gweithio i wneud y wefan hon yn hygyrch, ewch i:

Hawlfraint

Mae’r holl gynnwys ar y wefan hon yn eiddo i’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol neu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, oni nodir yn wahanol. Rhoddir mynediad at unrhyw ddeunyddiau a gyhoeddir ar y wefan hon - yn ogystal â’u defnyddio a’u hailddefnyddio - at ddibenion anfasnachol yn unig, a rhaid i unrhyw ddefnydd o’r fath bob amser gydnabod yn benodol mai’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol neu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yw ffynhonnell a deiliad yr hawlfraint.

Rhaid i ymwelwyr beidio â dosbarthu, na chyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon at ddibenion masnachol heb gael ein caniatâd.

Dolenni

Dim ond er gwybodaeth a hwylustod y darperir dolenni. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am y tudalennau yn y dolenni, nac am yr wybodaeth a geir yno.

Argaeledd

Nid ydym yn gwarantu mynediad di-dor at y wefan hon, na’r gwefannau y mae’n cysylltu â nhw. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw iawndal sy’n deillio o golli defnydd o wybodaeth.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar sut gallwn ni wella’r wefan, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i webmaster@mpts-uk.org.

Cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hybu’r ddealltwriaeth o’n gwaith ac i godi ymwybyddiaeth o benderfyniadau’r tribiwnlys. Ni fyddwn yn rhoi sylwadau ar unrhyw achos unigol nac yn cymryd rhan mewn sgwrs am benderfyniad tribiwnlys.

Mae’n bosibl y byddwn yn dilyn sefydliadau sy’n berthnasol i’n gwaith ac unigolion, lle bo hynny’n briodol. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn hoffi neu’n dilyn cyfrif i gymryd rhan mewn sgyrsiau. Nid yw dilyn cyfrif Twitter yn awgrymu unrhyw gymeradwyaeth gan y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol.

Peidiwch â chysylltu â ni ar Twitter os oes gennych ymholiad brys.