Ein rôl
Rydym yn cynnal gwrandawiadau, sy’n gwneud penderfyniadau annibynnol ynghylch a yw meddygon yn addas i ymarfer meddygaeth.
Os bydd angen, gall ein tribiwnlysoedd gyfyngu neu gael gwared ar hawl meddyg i ymarfer meddygaeth yn y DU.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn cynnal gwrandawiadau tribiwnlys ymarferwyr meddygol a gwrandawiadau tribiwnlys gorchmynion interim. I wneud hyn, rydym yn:
- gwneud yn siŵr bod penderfyniadau’r tribiwnlys yn bodloni ein safonau uchel
- penodi, arfarnu a hyfforddi:
- aelodau'r tribiwnlys
- cadeiryddion ac aseswyr cyfreithiol sydd â chymwysterau cyfreithiol
- rheolwyr achos
- trefnu gwrandawiadau
- hwyluso cyfarfodydd cyn y gwrandawiad
- rhoi cymorth gweinyddol i dribiwnlysoedd yn ystod gwrandawiadau
- diweddaru’r gofrestr feddygol a chyhoeddi cofnodion gwrandawiadau cyhoeddus
- darparu gwybodaeth am wrandawiadau sydd ar y gweill
- cyfathrebu canlyniadau’r gwrandawiad i reoleiddwyr tramor a phobl eraill
Ein gwrandawiadau
Fel arfer, rydym yn cynnal sawl gwrandawiad bob dydd, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn agored i’r cyhoedd.
Rydym yn cynnal gwrandawiadau yn unol â Deddf Meddygaeth 1983 a rheolau statudol eraill.
Rhagor o wybodaeth am ein gwrandawiadau.
Ein perthynas â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
Rydym yn un o bwyllgorau statudol y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac rydym yn atebol i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a Senedd y DU. Rydym yn annibynnol ar ein penderfyniadau, ac yn gweithredu ar wahân i rôl ymchwilio’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.