Hygyrchedd
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’r wefan hon.
Er enghraifft, dylai hyn olygu eich bod yn gallu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% a bod y testun i gyd yn dal i ffitio ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosib i’w ddeall hefyd.
Mae gennym sgoriau darllenadwyedd targed o 12-13 oed ar gyfer cynnwys sydd wedi’i anelu at gleifion a’r cyhoedd. Ac oedran darllen o 14–15 ar gyfer cynnwys i weithwyr proffesiynol. Rydym yn defnyddio Hemingway i wirio’r sgoriau darllenadwyedd hyn.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Fel rhan o’n hymrwymiad i hygyrchedd, fe wnaethom ofyn i Wasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw gynnal asesiad o’n gwefan. Daethant o hyd i’r materion canlynol:
- Botwm ‘neidio’ nad yw’n gweithio
- Strwythur pennawd anghywir
- Penawdau gwag
- Dolenni gwag
- Testun dolen nad yw'n ddisgrifiadol
- Dolenni diangen/dolenni dyblyg
- Botwm gwag
- Labeli ffurfiau lluosog
- Label ffurf amddifad
- Cod tabl anghywir
- Dogfennau anhygyrch nad ydynt yn rhai HTML
- IDs Dyblyg
Beth i'w wneud os na allwch chi gael mynediad at rannau o'r wefan hon
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
- anfonwch e-bost i enquiries@mpts-uk.org
- ffoniwch 0161 923 6263
Yn eich neges, dylech gynnwys:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
- y diwyg angenrheidiol.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd yn ymwneud â'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws problemau sydd heb gael eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost i webmaster@mpts-uk.org neu ffoniwch 0161 923 6263.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl B/byddar, sydd â nam ar y clyw, neu sydd â nam ar y lleferydd.
Rydym wedi gosod dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni ymlaen llaw gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Rydym wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r materion isod sydd ddim yn cydymffurfio.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol:
Gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth
Wrth glicio’r ddolen 'Neidio', wnaeth y cyrchwr ddim glanio ar ran gywir y dudalen. Mewn gwirionedd, mae’r cyrchwr yn glanio ar brif ranbarth yr MPTS, neu ddwy linell uwchben y ddolen hafan ar y dewisiadau briwsion bara. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.1 (osgoi rhwystr) WCAG 2.1.
Nid yw bob amser yn bosibl newid gogwydd y ddyfais o’r llorweddol i’r fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.4 (cyfeiriadaeth) WCAG 2.1.
Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.4 (ailfeintio testun) WCAG 2.1.
Mae botwm heb ei labelu yn ymddangos ar y canlyniadau chwilio ar gyfer tribiwnlysoedd a phenderfyniadau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys annhestunol) WCAG 2.1.
Mae pennawd ar goll mewn tabl yng ngholofn gyntaf (yn unig) tudalen penderfyniadau diweddar y tribiwnlys. Mae’r wybodaeth yn y tabl yn hygyrch fel arall, ond nid yw’n bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
Adnoddau rhyngweithiol a thrafodion
Mae rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol yn anodd eu gwe-lywio drwy ddefnyddio bysellfwrdd. Er enghraifft, oherwydd bod tag 'label' ar goll o reolyddion rhai ffurflenni.
Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y problemau gyda gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth, a chyda thrafodion ac adnoddau rhyngweithiol. Rydym yn credu y byddai gwneud hynny nawr yn gosod baich anghymesur yn ôl yr ystyr yn y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwr yn cael ei adnewyddu.
PDFs a dogfennau eraill
Mae llawer o ddogfennau heb fod ar gael mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dewisiadau amgen o ran testun coll a strwythur dogfennau coll.
Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw cymdeithion MPTS a phrofiadau eraill a geir drwy fewngofnodi o fewn cwmpas y datganiad hygyrchedd hwn.
Sut rydym yn profi’r wefan hon
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2020 gan Ymddiriedolaeth Shaw. Roeddent wedi defnyddio offer gwerthuso awtomataidd a phrofion â llaw gan dîm profi mewnol o bobl ag amrywiol anableddau i gwblhau archwiliad cynhwysfawr o ran hygyrchedd. Rydym hefyd yn defnyddio Siteimprove i dynnu sylw at faterion hygyrchedd y gallwn eu datrys yn barhaus.
Rydym yn adeiladu ein gwefan gyda’r nod o roi’r profiad gorau i’n holl ddefnyddwyr. Ond rydym yn cydnabod ei bod yn amhosibl gwneud i’n gwefan weithio’n effeithlon, effeithiol a bod yn union yr un fath ar bob porwr gwe.
I wneud yn siŵr bod ein gwefan a’i nodweddion yn gweithio ac yn ymddangos yn gywir, rydym yn argymell eich bod yn diweddaru eich porwr i’r fersiwn ddiweddaraf.
Mae ein gwefan wedi’i dilysu fel un sy’n gweithio gyda’r porwyr canlynol.
OS | Porwr |
---|---|
Windows | Google Chrome – y fersiwn ddiweddaraf |
Microsoft Edge – y fersiwn ddiweddaraf | |
Mozilla Firefox – y fersiwn ddiweddaraf | |
Mac | Safari – y fersiwn ddiweddaraf |
Google Chrome – y fersiwn ddiweddaraf | |
iOS | Safari – y fersiwn ddiweddaraf |
Google Chrome – y fersiwn ddiweddaraf | |
Android | Samsung Internet – y fersiwn ddiweddaraf |
Google Chrome – y fersiwn ddiweddaraf |
Defnyddiwch y dolenni isod i lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o’r porwr o’ch dewis.
Mae’n bosibl nad oes gennych ganiatâd i lawrlwytho porwr newydd. Os felly, rydym yn awgrymu defnyddio dyfais wahanol, fel eich ffôn personol neu gyfrifiadur eich cartref.