1. Home
  2. Complaints

Cwynion ac adborth am ein gwasanaeth

Mae eich sylwadau, eich canmoliaeth a’ch cwynion yn bwysig i ni. Rydym am roi’r gwasanaeth gorau posibl i chi, ac mae eich adborth yn ein helpu i wneud hynny. A phan fydd pethau wedi mynd o’i le, rydym eisiau cywiro’r camgymeriadau hynny.

Rydym yn dilyn polisïau, prosesau a systemau cwynion cwsmeriaid y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Yn unol â’n gwerthoedd, byddwn yn:

  • bod yn agored, yn onest ac yn deg
  • bod yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn eich trin â pharch
  • gwrando ar yr hyn a ddywedwch wrthym, a dysgu ohono
  • deall a diwallu eich anghenion a chyfathrebu â chi mewn ffordd sy’n addas i chi
  • cadw ein prosesau’n effeithlon ac yn effeithiol.

Os ydych chi eisiau dweud wrthym am unrhyw ran o’ch profiad gyda ni – boed y profiad hwnnw’n dda neu’n ddrwg – rydym eisiau clywed gennych chi.

Isod rydym yn crynhoi ein polisïau a’n gweithdrefnau. Ond gallwch hefyd ddarllen ein polisïau llawn:

Sut i roi adborth

Defnyddiwch ein ffurflen gwyno

Rhan A: Eich manylion

Rhan B: Addasiadau rhesymol

Rhan C: Eich adborth

Rhan D: Eich disgwyliadau

Datganiad Amddiffyn Data

Rydym wedi ymrwymo i ofalu am eich gwybodaeth bersonol, ac mae gennym bolisi preifatrwydd ar waith i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn.

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar Rannau A a B y ffurflen hon yn cael ei defnyddio i’n helpu i gyfathrebu â chi’n effeithiol ac i’n helpu i ddiwallu eich anghenion cymorth unigol.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol yn ein sefydliad.

Efallai y bydd yr wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon hefyd yn cael ei defnyddio - ar sail ddienw - i lywio datblygiad ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Fersiynau eraill

Ffurflen y gellir ei golygu (Saesneg) a ffurflen y gellir ei golygu (Cymraeg)

Darllenydd sgrin hygyrch (Saesneg) a darllenydd sgrin hygyrch (Saesneg)

Fersiwn hawdd ei darllen (Saesneg) a fersiwn hawdd ei darllen (Cymraeg)

Ar ôl ei chwblhau, gallwch:

Anfon e-bost atom

E-bost: enquiries@mpts-uk.org

Ysgrifennu atom

Adborth a chwynion
Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol
St James’s Building
79 Oxford Street
Manchester
M1 6FQ

Ffoniwch ni

Ffoniwch: 0161 923 6602

Defnyddio cynrychiolydd:

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn fodlon i’r unigolyn hwnnw weithredu ar eich rhan. Wedyn, byddwn yn delio â’r unigolyn yn uniongyrchol nes byddwn wedi cwblhau’r ymchwiliad i’ch cwyn. Gallwch ddweud wrthym ar unrhyw adeg os nad ydych am i’r unigolyn eich cynrychioli mwyach.

Beth yw cwyn gan gwsmer?

Mae cwyn gan gwsmer yn dangos bod anfodlonrwydd ynghylch ein gwasanaethau. Mae’n bosibl y bydd disgwyl rhoi ymateb neu ddatrysiad. Gellir cyflwyno cwynion ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Weithiau, rydym yn cael pethau’n anghywir, neu rydym yn gallu eich helpu mewn ffordd sy’n addas i chi. Mae ein proses gwyno i gwsmeriaid yn cynnwys adborth am y canlynol:

  • gweithdrefn neu bolisi
  • y ffordd rydym wedi cyfathrebu â chi
  • gweithredoedd ein staff
  • unrhyw wasanaeth rydym wedi’i ddarparu nad oedd yn foddhaol yn eich barn chi.

Os nad yw eich cwyn yn briodol i’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) ddelio â hi, byddwn yn ei chyfeirio at y tîm iawn yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn gwneud hyn. 

Beth sydd ddim yn cael ei ystyried o ran cwynion gan gwsmeriaid

Nid ydym yn ystyried cwynion am feddygon. Mae gwybodaeth am sut i gwyno am feddyg ar gael yn yr adran Pryderon ar wefan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Nid yw ein proses gwyno yn cynnwys ceisiadau am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Ewch i’n tudalen Cael gafael ar wybodaeth..

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Wrth gyflwyno cwyn neu roi adborth, dywedwch wrthym am y canlynol:

  • beth ddigwyddodd (gan gynnwys unrhyw gyfeirnodau yr ydym wedi’u rhoi i chi)
  • pam rydych chi’n cwyno neu’n rhoi adborth i ni
  • beth yw eich disgwyliadau o ddarparu'r adborth
  • eich rhif cofrestru yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol, os mai meddyg ydych chi.

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Rydym yn trin pob cwyn ar sail ei rhinweddau, ni waeth pwy sydd wedi cwyno. Rydym yn gweithredu’n onest, ac yn dangos tegwch a pharch tuag at bob achwynydd. Yn gyfnewid am hynny, rydym yn disgwyl i bawb sy’n cysylltu â ni fod yn gwrtais. Os yw cwsmeriaid yn ddigywilydd, yn fygythiol neu’n amharchus yn rheolaidd, neu’n gwneud sylwadau sarhaus neu wahaniaethol, gallwn dynnu ein gwasanaeth yn ôl neu gyfyngu arno. 

Sut byddwn ni’n delio â’ch cwyn?

Ein nod yw datrys cwynion gyda’n hymateb cyntaf, os bydd modd gwneud hynny. Ond os nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb, mae’n bosibl y byddwn yn uwchgyfeirio’r gŵyn drwy ein proses gwyno.

Cydnabod eich cwyn

Byddwn yn cydnabod ein bod wedi cael eich cwyn o fewn pum diwrnod gwaith.

Asesiad cychwynnol

Byddwn yn asesu eich cwyn i wneud yn siŵr ein bod yn ei hanfon at y person mwyaf priodol i ymateb. Byddwn yn ei chofnodi, ac yn rhoi rhif cwyn unigryw iddi er mwyn i ni allu olrhain hynt eich cwyn.

Ymchwilio i gŵyn

Byddwn yn asesu eich cwyn i wneud yn siŵr ein bod yn ei hanfon at y person mwyaf priodol i ymateb. Byddwn yn ei chofnodi, ac yn rhoi rhif cwyn unigryw iddi er mwyn i ni allu olrhain hynt eich cwyn.

Penderfyniad

Pan fydd yr ymchwiliad wedi dod i ben, byddwn yn anfon ymateb drwy e-bost (oni bai eich bod wedi gofyn i’r ymateb gael ei anfon drwy fformat arall). Ein nod yw gwneud hyn o fewn deg diwrnod gwaith i’r dyddiad y cawsom eich cwyn. Os yw hi’n debygol y bydd oedi, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl.

Uwchgyfeirio

Os na fyddwn wedi dod i benderfyniad ar ôl ymateb pellach, mae’n bosibl y byddwn yn uwchgyfeirio eich cwyn drwy ei hanfon at dîm Adolygu Corfforaethol y Cyngor Meddygol Cyffredinol. 

Byddant yn ymchwilio ymhellach, yn cymryd barn annibynnol ar y materion ac yn ysgrifennu atoch i roi’r canlyniad terfynol i chi. Os byddant yn penderfynu nad oes angen cymryd camau pellach, byddwn yn ystyried bod eich cwyn wedi cael ei chau, oni bai eich bod yn codi unrhyw wybodaeth newydd.

Cyfrinachedd

Mae eich data personol yn bwysig. Felly, rydym wedi ymrwymo i’w gadw’n ddiogel a’i ddefnyddio’n briodol.

Rydym yn cadw cofnodion cwynion yn electronig. Pan fyddwn yn cofnodi gwybodaeth sy’n datgelu pwy ydych chi, dim ond er mwyn ymchwilio a datrys cwyn y byddwn yn ei ddefnyddio. Neu er mwyn delio â’r broses ehangach y codwyd eich cwyn ynddi. Rydym yn storio ac yn prosesu eich data o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.

Rydym yn adrodd ar gwynion yn rheolaidd er mwyn deall a gwella ein proses gwyno a’n gwasanaethau. Anaml y byddwn yn cyhoeddi’r adroddiadau hyn yn allanol. Ond bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy’n datgelu pwy ydych chi’n cael ei heithrio wrth gyhoeddi’r wybodaeth honno, er mwyn diogelu cyfrinachedd y rheini sy’n gysylltiedig â’r gŵyn.

Mae’n bosibl y bydd ein timau gwahanol yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu eich data personol â phartïon eraill, os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Gallai hyn fod pan fydd llys yn gofyn am gael y data, neu pan fydd y data er budd y cyhoedd (er enghraifft at ddibenion ymchwil). Pan fo’n bosibl, bydd y data’n ddienw neu’n cael ei gyfuno cyn i ni ei rannu ag unrhyw barti arall.

Cyrraedd safonau delio â chwynion

Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) wedi ardystio ein bod yn gwneud y canlynol:

  • meddu ar weithdrefnau effeithiol ar gyfer ymateb i gwynion gan gwsmeriaid
  • ymrwymo i ddysgu o gwynion cwsmeriaid a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig
  • delio â chwynion mewn ffordd gyson, deg a thryloyw.

Mae’r BSI wedi dyfarnu nod barcud i ni er mwyn adlewyrchu’r ffordd rydym yn bodloni safonau delio â chwynion.