1. Home
  2. Observe a hearing expression of interest

Arsylwi ar wrandawiad

Mae ein gwrandawiadau yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn. Rhaid i dribiwnlysoedd wneud penderfyniadau anodd a phwysig, a rhaid i’r penderfyniad hwnnw fod yn deg, yn gymesur ac yn gyson.

Mae’n bwysig bod pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu trin â pharch, a bod yr achos yn parhau’n urddasol drwy gydol y broses. Mae’n arbennig o bwysig bod arsylwyr yn ymddwyn yn briodol.

Rydym yn casglu’r wybodaeth isod er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnal cywirdeb y gwrandawiad. Os ydych chi’n dymuno arsylwi ar wrandawiad rhithwir o bell, byddwn yn gofyn am brawf o’ch enw a’ch cyfeiriad yn y DU, ac am eich caniatâd penodol gyda’n telerau mynediad. Dylid gwneud ceisiadau o leiaf 48 awr cyn dechrau’r gwrandawiad yr ydych am ei arsylwi. 

Gellir arsylwi’r gwrandawiadau sy’n cael eu cynnal yn ein canolfan gwrandawiadau o oriel gyhoeddus yn ystafell y gwrandawiad, a gellir arsylwi gwrandawiadau rhithwir o bell. Rydym yn cyfyngu ar nifer y bobl sy’n gallu arsylwi ar ein gwrandawiadau, boed hynny wyneb yn wyneb neu’n rhithwir. Pe bai gormod o geisiadau yn cael eu cyflwyno, bydd llefydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Os bydd y gwrandawiad rhithwir yn cael ei beryglu mewn unrhyw ffordd gennych chi, sy’n annhebygol o ddigwydd, efallai y byddwn yn defnyddio eich enw a’ch cyfeiriad i gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn. Bydd eich manylion yn cael eu cadw am 12 mis ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben. 

Dylai newyddiadurwyr anfon e-byst i pressoffice@mpts-uk.org. Does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon.

Mae rhestr o wrandawiadau sydd ar y gweill ar gael ar dudalen Penderfyniadau a gwrandawiadau ymarferwyr meddygol.
 

Ffurflen datganiad o ddiddordeb

Mae asterisg yn dynodi maen prawf gorfodol