Mathau o wrandawiadau a sut maent yn gweithio
Rydym yn cynnal dau fath o wrandawiad ar gyfer meddygon y gwnaed honiadau yn eu herbyn am eu haddasrwydd i ymarfer meddygaeth.
Yn y canllaw hwn, rydym yn rhoi trosolwg cyffredinol o’r canlynol:
- tribiwnlysoedd gorchmynion interim
- tribiwnlysoedd ymarferwyr meddygol.
Os ydych chi’n rhan o wrandawiad, dylech ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer meddygon a chynrychiolwyr, neu ein canllaw i dystion ar gyfer gwrandawiadau, i gael cymorth.
Pam darllen y canllaw hwn?
Byddwch yn deall y gwahaniaethau rhwng ein dau fath o wrandawiad, a sut maent yn gweithio.
Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn?
Canllaw ar gyfer y cyhoedd yw hwn.