1. Home
  2. Cymraeg
  3. Welsh language standards

Safonau’r Gymraeg

Rydym yn ymrwymedig i wella ein darpariaeth Gymraeg yn unol â’r hysbysiad cydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd cydymffurfiaeth yn ein helpu i wella lefel y gwasanaethau Cymraeg y gall cofrestryddion ac aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgwyl eu derbyn gennym. Rydym wedi gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg ers 2006, sy’n esbonio sut y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. O 6 Rhagfyr 2023 ymlaen, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r safonau a nodir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ein hysbysiad cydymffurfio.

Fel rhan o'n hymrwymiad i'r safonau, byddwn yn ymdrechu i neilltuo swm rhesymol a chymesur o adnoddau gweithredol a gwybodaeth i ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, gan gefnogi ein staff i gyflawni'r dasg hon. Wrth ystyried sut i fodloni'r safonau, rydym hefyd yn cydbwyso ein cyfrifoldeb i gydymffurfio â'n cyfrifoldebau deddfwriaethol eraill, fel y'u diffinnir yn y Ddeddf Meddygaeth a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Nid yw pob agwedd ar ein gwaith o fewn cwmpas y safonau. Fodd bynnag, pan fydd gwasanaeth o fewn y cwmpas, rydym yn ymrwymedig i gymhwyso egwyddor cydraddoldeb drwy beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Mae’r dolenni isod yn darparu mwy o wybodaeth ar sut yr ydym yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau, a sut y gallwch rannu adborth a chwynion am ein darpariaeth Gymraeg.

Ein cydymffurfiad

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cynhyrchu adroddiad ar ein cydymffurfiaeth â’r safonau. 

Noddwr y Gymraeg, sef y Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol ac Ymgysylltu ar hyn o bryd, sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r safonau.