Tribiwnlysoedd ymarferwyr meddygol - sut maent yn gweithio
- Tribiwnlysoedd ymarferwyr meddygol
- Apeliadau
Beth maent yn ei wneud
Y tribiwnlysoedd hyn sy’n penderfynu a oes amhariad ar addasrwydd meddyg i ymarfer, a pha gamau - os o gwbl - sydd eu hangen.
Sut maent yn gweithio
Gall y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ddwyn achos yn erbyn y meddyg, yn dilyn ymchwiliad i bryder a fynegwyd i’r GMC.
Mae'r gwrandawiadau hyn yn gyhoeddus, ac eithrio pan fyddant yn ystyried gwybodaeth gyfrinachol, neu wybodaeth am iechyd meddyg.
Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau?
Aelodau o’r Tribiwnlys sy’n gwneud y penderfyniadau. Rydym yn penodi tri aelod o’r tribiwnlys i bob gwrandawiad, a rhaid cael o leiaf un aelod meddygol ac un aelod anfeddygol yn bresennol.Cyngor cyfreithiol
Yn y rhan fwyaf o wrandawiadau, bydd cadeirydd sydd â chymwysterau cyfreithiol yn eistedd fel rhan o’r tribiwnlys, a bydd yn cynghori ar bwyntiau cyfreithiol. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd asesydd cyfreithiol yn bresennol i gynghori’r tribiwnlys ar bwyntiau cyfreithiol. Er hyn, ni fydd yr asesydd cyfreithiol yn chwarae unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau.
Penderfyniadau’r tribiwnlys
Mae tribiwnlys yn penderfynu ar y canlynol:
- a yw’r ffeithiau a honnir wedi’u profi
- a oes amhariad ar addasrwydd meddyg i ymarfer
- a ddylid cymryd unrhyw gamau gweithredu.
Gall tribiwnlys wneud y canlynol:
- peidio â chymryd camau gweithredu
- derbyn ymrwymiadau a gynigir gan y meddyg os cytunir arnynt gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
- gosod amodau ar gofrestriad y meddyg
- atal cofrestriad y meddyg
- dileu enw’r meddyg oddi ar y gofrestr feddygol, fel na all y meddyg ymarfer mwyach.
Bydd tribiwnlysoedd yn cyfeirio at ein canllawiau wrth wneud penderfyniad. Mae hyn yn sicrhau bod cysondeb wrth wneud penderfyniadau.
Rhybuddion
Os bydd tribiwnlys yn dod i’r casgliad nad oes amhariad ar addasrwydd y meddyg i ymarfer, gall y tribiwnlys roi rhybudd i’r meddyg. Nid cosb yw hyn, ac nid yw'n cyfyngu ar ymarfer y meddyg.
Adolygiadau
Cynhelir gwrandawiad adolygu i benderfynu a oes amhariad o hyd ar addasrwydd meddyg i ymarfer, ac a yw’n ddiogel i’r meddyg ddychwelyd i ymarfer heb gyfyngiadau.
Mae’n bosibl cynnal adolygiad ‘ar y papurau’ yn ystod y cam hwn, os bydd y meddyg a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cytuno ar ganlyniad arfaethedig. Gwneir penderfyniad heb i’r meddyg a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol fod yn bresennol.
Cais am adfer
Os bydd enw meddyg yn cael ei ddileu oddi ar y gofrestr feddygol, gall y meddyg hwnnw wneud cais i adfer ei enw ar ôl pum mlynedd. Bydd tribiwnlys yn penderfynu a all meddyg ddychwelyd i ymarfer heb gyfyngiadau.
Gwrandawiadau diffyg cydymffurfio
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gofyn i feddyg gael asesiad fel rhan o’i ymchwiliad.
Gall yr asesiad fod ar gyfer y canlynol:
• iechyd
• perfformiad
• gwybodaeth o’r iaith Saesneg.
Mae’n bosibl y bydd yr asesiad hefyd yn gofyn i’r meddyg ddarparu gwybodaeth.
Os bydd meddyg yn gwrthod darparu gwybodaeth, gall y Cyngor Meddygol Cyffredinol atgyfeirio’r meddyg atom ar gyfer gwrandawiad diffyg cydymffurfio.