Tribiwnlysoedd gorchmynion interim – sut maent yn gweithio
- Crynodeb
- Tribiwnlysoedd gorchmynion interim
Beth maent yn ei wneud
Tribiwnlysoedd gorchmynion interim sy’n penderfynu a ddylid cyfyngu ar ymarfer meddyg tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Sut maent yn gweithio
Gall y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) atgyfeirio achos atom wrth iddynt ymchwilio i gŵyn am feddyg. Bydd y GMC yn gwneud hyn os ydyn nhw’n credu y dylid cyfyngu ar ymarfer meddyg er mwyn diogelu aelodau o’r cyhoedd, neu os bydd hynny er budd y meddyg.
Cynhelir y gwrandawiadau hyn yn breifat, ond gall meddyg ofyn am wrandawiad cyhoeddus.
Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau?
Aelodau o’r Tribiwnlys sy’n gwneud y penderfyniadau. Rydym yn penodi tri aelod o’r tribiwnlys i bob gwrandawiad, a rhaid cael o leiaf un aelod meddygol ac un aelod anfeddygol yn bresennol.
Cyngor cyfreithiol
Yn y rhan fwyaf o wrandawiadau, bydd cadeirydd sydd â chymwysterau cyfreithiol yn eistedd fel rhan o’r tribiwnlys, a bydd yn cynghori ar bwyntiau cyfreithiol. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd asesydd cyfreithiol yn bresennol i gynghori’r tribiwnlys ar bwyntiau cyfreithiol. Er hyn, ni fydd yr asesydd cyfreithiol yn chwarae unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau.
Penderfyniadau’r tribiwnlys
Caiff y tribiwnlys atal neu osod amodau ar gofrestriad meddyg am hyd at 18 mis.
Bydd pob tribiwnlys yn cyfeirio at ein canllawiau wrth wneud penderfyniad. Mae hyn yn sicrhau cysondeb yn y penderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd.
Adolygiadau
Rhaid cynnal adolygiadau o fewn chwe mis ar ôl i’r adolygiadau hynny gael eu gosod. Ar ôl hynny, bydd adolygiadau’n cael eu cynnal fesul cyfnod o chwe mis ar y mwyaf.
Gellir cynnal adolygiad o orchymyn interim heb i’r meddyg a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol fod yn bresennol. Adolygiad ‘ar y papurau’ yw hwn. Rhaid i’r meddyg a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gytuno ar ganlyniad arfaethedig er mwyn i hyn ddigwydd.