Apeliadau
Apeliadau
Pwy all apelio?
Mae gan y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia hawl i apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys o fewn 28 diwrnod ar ôl cael gwybod am y penderfyniad.
Apelio yn erbyn penderfyniadau newydd y tribiwnlys
Pan fydd y mesur interim neu’r mesur terfynol yn cael ei osod am y tro cyntaf, gall y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia apelio’n uniongyrchol i’r llys perthnasol o dan Erthygl 17 o Orchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024.
I ble y gwneir apeliadau i’r llys?
Yn dibynnu ar gyfeiriad cofrestredig y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia, gwneir apeliadau i’r canlynol:
- Llys y Sesiwn yn yr Alban
- Yr Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon
- Yr Uchel Lys Cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.
Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998 sy’n rheoli apeliadau.
Beth all ddigwydd mewn gwrandawiad apêl llys?
Os bydd achos yn mynd ymlaen i wrandawiad mewn llys, gall y barnwr wneud y canlynol:
- gwrthod yr apêl
- diddymu'r penderfyniad o dan apêl
- disodli’r penderfyniad o dan apêl ag unrhyw benderfyniad arall y gellid bod wedi’i wneud gan y tribiwnlys
- ailgyfeirio'r mater i'w waredu yn unol â chyfarwyddiadau.
Apeliadau mewnol
Pan fydd tribiwnlys yn adolygu mesur interim neu fesur terfynol, neu pan fydd tribiwnlys yn gwrthod cais i dynnu enw’n wirfoddol, gall y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia apelio i banel apêl mewnol a drefnir gan y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) (Erthygl 16 o’r Gorchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddygol). I fynd ar drywydd apêl fewnol, rhaid i’r cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia geisio caniatâd i apelio o fewn 28 diwrnod i gael gwybod am benderfyniad y tribiwnlys.
Caiff ceisiadau am ganiatâd i apelio eu hystyried gan gadeirydd cyfreithiol gymwys (LQC) a fydd naill ai’n rhoi neu’n gwrthod caniatâd. Os gwrthodir caniatâd, mae gan y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia hawl i apelio i’r llys perthnasol.
Beth all ddigwydd mewn gwrandawiad panel apêl mewnol?
Os rhoddir caniatâd i apelio, bydd yr MPTS yn trefnu panel apêl mewnol. Cynhelir gwrandawiadau panel apêl mewnol yn unol â’r Rheolau Apelio. Gall y panel apêl mewnol wneud y canlynol:
- gwrthod yr apêl
- diddymu'r penderfyniad o dan apêl
- disodli’r penderfyniad o dan apêl ag unrhyw benderfyniad arall y gellid bod wedi’i wneud gan y tribiwnlys
- ailgyfeirio'r mater i'w waredu yn unol â chyfarwyddiadau.