1. Home
  2. Hearings and decisions
  3. Hearing types
  4. How a hearing works for PAs and AAs
  5. Associate tribunals

Tribiwnlysoedd Cymdeithion

Tribiwnlysoedd Cymdeithion

Beth maent yn ei wneud

Y tribiwnlysoedd hyn sy’n penderfynu a oes amhariad ar addasrwydd cydymaith meddygol (PA) neu gydymaith anaesthesia (AA) i ymarfer, a pha gamau - os o gwbl - sydd eu hangen.

Sut maent yn gweithio

Gall y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ddwyn achos yn erbyn y cydymaith meddygol (PA) neu’r cydymaith anaesthesia (AA), yn dilyn ymchwiliad i bryder a fynegwyd iddynt.

Mae'r gwrandawiadau hyn yn gyhoeddus, ac eithrio pan fyddant yn ystyried gwybodaeth gyfrinachol, neu wybodaeth am iechyd cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia.

Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau?

Aelodau o’r Tribiwnlys sy’n gwneud y penderfyniadau. Rydym yn penodi tri ar gyfer pob gwrandawiad, a rhaid cael o leiaf un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg.

Cyngor cyfreithiol

Yn y rhan fwyaf o wrandawiadau, bydd cadeirydd sydd â chymwysterau cyfreithiol yn eistedd fel rhan o’r tribiwnlys, a bydd yn cynghori ar bwyntiau cyfreithiol. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd asesydd cyfreithiol yn bresennol i gynghori’r tribiwnlys ar bwyntiau cyfreithiol. Er hyn, ni fydd yr asesydd cyfreithiol yn chwarae unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

Penderfyniadau’r tribiwnlys

Mae tribiwnlys yn penderfynu ar y canlynol:

  • a yw’r ffeithiau a honnir wedi’u profi
  • a oes amhariad ar addasrwydd y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia i ymarfer
  • a ddylid cymryd unrhyw gamau cyfyngu yn dilyn y canfyddiad hwn o amhariad.

Gall tribiwnlys wneud y canlynol:

  • peidio â chymryd camau gweithredu
  • gosod amodau ar gofrestriad y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia
  • atal cofrestriad y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia
  • dileu enw’r meddyg oddi ar gofrestrau’r GMC, fel na allent ymarfer mwyach.

Bydd tribiwnlysoedd yn cyfeirio at ein canllawiau wrth wneud penderfyniad. Mae hyn yn sicrhau bod cysondeb wrth wneud penderfyniadau.

Rhybuddion

Os bydd tribiwnlys yn dod i’r casgliad nad oes amhariad ar addasrwydd y cydymaith meddygol neu'r cydymaith anaesthesia i ymarfer, gall y tribiwnlys roi rhybudd i’r cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia. Nid mesur terfynol yw hyn, ac nid yw'n cyfyngu ar ymarfer y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia. 

Adolygiadau

Bydd y GMC naill ai’n cyfeirio’r adolygiad at un o archwilwyr achos y GMC neu at yr MPTS i drefnu tribiwnlys cymdeithion. Cynhelir gwrandawiad adolygu i benderfynu a oes amhariad o hyd ar addasrwydd cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia i ymarfer, ac / neu a yw’n ddiogel iddynt ddychwelyd i ymarfer heb gyfyngiadau. 

Ceisiadau i ailymuno

Os caiff enw cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia ei dynnu oddi ar y Cofrestrau, gallent wneud cais i ailymuno â’r Cofrestrau ar ôl pum mlynedd. Bydd tribiwnlys yn penderfynu a all cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia ddychwelyd i ymarfer heb gyfyngiadau.