1. Home
  2. Hearings and decisions
  3. Hearing types
  4. How a hearing works for PAs and AAs
  5. Interim measures tribunals

Tribiwnlysoedd mesurau interim – sut maent yn gweithio

  1. Crynodeb
  2. Tribiwnlysoedd mesurau interim

Beth maent yn ei wneud

Mae tribiwnlysoedd mesurau interim yn penderfynu a ddylid cyfyngu ar ymarfer cydymaith meddygol (PA) neu gydymaith anaesthesia (AA) tra mae ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Sut maent yn gweithio

Gall y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) atgyfeirio achos atom tra maent yn ymchwilio i gŵyn am gydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. Bydd y GMC yn gwneud hyn os ydyn nhw’n credu y dylid cyfyngu ar ymarfer cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia er mwyn diogelu aelodau o’r cyhoedd, neu er budd y cydymaith ei hun.

Cynhelir y gwrandawiadau hyn yn breifat, ond gall cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia ofyn am wrandawiad cyhoeddus.

Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau?

Aelodau o’r Tribiwnlys sy’n gwneud y penderfyniadau. Rydym yn penodi tri aelod o’r tribiwnlys ar gyfer pob gwrandawiad, a rhaid cael o leiaf un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg.

Cyngor cyfreithiol

Yn y rhan fwyaf o wrandawiadau, bydd cadeirydd sydd â chymwysterau cyfreithiol yn eistedd fel rhan o’r tribiwnlys, a bydd yn cynghori ar bwyntiau cyfreithiol. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd asesydd cyfreithiol yn bresennol i gynghori’r tribiwnlys ar bwyntiau cyfreithiol. Er hyn, ni fydd yr asesydd cyfreithiol yn chwarae unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau.

Penderfyniadau’r tribiwnlys

Caiff y tribiwnlys atal neu osod amodau ar gofrestriad cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia am hyd at 18 mis.

Bydd pob tribiwnlys yn cyfeirio at ein canllawiau wrth wneud penderfyniad. Mae hyn yn sicrhau cysondeb yn y penderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd.

Adolygiadau

Rhaid cynnal adolygiadau cyn pen chwe mis ar ôl gosod cyfyngiad. Ar ôl hynny, bydd adolygiadau’n cael eu cynnal fesul chwe mis ar y mwyaf. Bydd y GMC naill ai’n cyfeirio’r adolygiad at un o archwilwyr achos y GMC neu at yr MPTS i drefnu tribiwnlys mesurau interim.