1. Home
  2. Privacy and cookies
  3. How we share information
Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Sut rydym yn rhannu gwybodaeth

Dim ond os yw’n gyfreithlon i ni wneud hynny ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau penodol y byddwn yn rhannu data personol â sefydliadau neu unigolion eraill. Nid ydym yn defnyddio data personol ar gyfer marchnata uniongyrchol (hyrwyddo neu werthu nwyddau, gwasanaethau ac ati).

Weithiau rydym yn defnyddio sefydliadau eraill i brosesu data personol ar ein rhan. Rydym yn mynnu bod y cyflenwyr hyn yn dilyn yr un rheolau a gofynion diogelwch gwybodaeth â ni ac nid ydym yn caniatáu iddynt ailddefnyddio’r data at ddibenion eraill. 

Cludwyr

Rydym yn defnyddio'r Post Brenhinol i anfon hysbysiadau statudol at unigolion cofrestredig. Lle bo angen, rydym yn contractio gyda chyflenwyr cludo domestig a rhyngwladol. Rydym yn rhannu enw'r unigolyn cofrestredig a gwybodaeth gyswllt â chludwyr er mwyn cyflawni'r diben hwn.

Pan fydd ymdrechion blaenorol i gyflwyno hysbysiadau i'r unigolyn cofrestredig wedi bod yn aneffeithiol, efallai y byddwn yn defnyddio gwasanaeth cyflwyno hysbysiadau dan gontract. Os nad yw'r cofrestrai yn cael ei gynrychioli ac nad oes ganddo gyfeiriad e-bost na chyfeiriad post effeithiol, efallai y byddwn yn defnyddio gwasanaeth cyflwyno hysbysiadau dan gontract i anfon dogfennau rheoli achosion hefyd. Rydym yn rhannu enw'r unigolyn cofrestredig a gwybodaeth gyswllt â chludwyr er mwyn cyflawni'r diben hwn.

Ymchwil ac archwilio

Gallwn rannu data personol â thrydydd partïon at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ymchwil ac archwilio yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Ymchwiliadau cyhoeddus

Weithiau mae adolygiadau ac ymchwiliadau annibynnol yn gofyn i ni am wybodaeth sy’n berthnasol i gylch gorchwyl ymchwiliad. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni rannu gwybodaeth yn ddiogel, gan gynnwys data personol, â nhw.

Mae ymchwiliadau cyhoeddus statudol yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (Deddf 2005), a’r rheolau ymchwiliadau cysylltiedig. O dan Ddeddf 2005, gall ymchwiliad ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu tystiolaeth. Mae rheolau’r ymchwiliad hefyd yn nodi sut gellir rhannu a datgelu gwybodaeth.

Fel arfer, nid oes gan ymchwiliadau nac adolygiadau annibynnol nad ydynt yn ymchwiliadau statudol bwerau i’n gorfodi i ddarparu gwybodaeth. Dim ond pan fyddwn yn fodlon ei bod yn gyfreithlon ac yn gymesur gwneud hynny y byddwn yn rhyddhau data personol i’r ymchwiliadau a’r adolygiadau hyn.

Diogelu

Pan fyddwn wedi cael gwybod am bryder diogelu, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill, fel yr awdurdod lleol perthnasol neu’r heddlu. Os byddwn yn penderfynu rhannu’r wybodaeth hon, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennym sail gyfreithlon briodol i wneud hynny. Am ragor o wybodaeth, darllenwch y datganiad diogelu

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Weithiau rydym yn trosglwyddo data personol y tu allan i'r DU. Yn gyffredinol, byddwn ond yn trosglwyddo data personol i wledydd y tu allan i’r DU i gyflawni’r canlynol:

  • ymateb i geisiadau gan bobl sydd am i ni rannu eu manylion cofrestru â rheoleiddiwr tramor
  • am resymau pwysig er budd y cyhoedd neu i atal neu ganfod trosedd
  • pan fyddwn yn defnyddio cyflenwr i brosesu data personol ar ein rhan a bod y cyflenwr yn gweithredu y tu allan i'r DU.

Yn gyffredinol, dim ond i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EAA) y byddwn yn trosglwyddo data personol. Pan fydd eich data'n cael ei brosesu y tu allan i'r UE/AEE, mae gennym bolisïau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu'n ddigonol.