1. Home
  2. Privacy and cookies
  3. Data subject specific personal data use
Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Defnyddio data personol sy’n benodol i destunau data

Meddyg cofrestredig neu feddyg a gofrestrwyd yn flaenorol

Mae cofrestrai yn golygu meddyg sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd neu gyn feddyg.

Gwybodaeth am wrandawiadau tribiwnlys a sancsiynau

Pam rydym yn dal y data

O dan Ddeddf Meddygaeth 1983 (y Ddeddf) mae’n ofynnol i ni gael gwybodaeth er mwyn penderfynu a oes amhariad neu nam ar addasrwydd meddyg i ymarfer.

Rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ein llywodraethu (Saesneg yn unig).

Rydym yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod penderfyniadau a wnaed gan ein tribynau yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau ar-lein.

Pa ddata rydym yn ei ddal

Rydym yn dal gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynir ac a ystyrir gan aelodau tribiwnlysoedd. Rydym hefyd yn dal gwybodaeth categori arbennig am unigolion, gan gynnwys cofnodion meddygol, pan fo wedi cael ei darparu fel rhan o’r penderfyniad. Rydym yn dal gwybodaeth am iechyd unigolion cofrestredig ac euogfarnau troseddol pan fo hynny’n berthnasol i’r pryder rydym yn ei ystyried.

Sut rydym yn ei rhannu

Mae’r Ddeddf yn mynnu ein bod yn rhannu gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd gorchmynion interim a gwrandawiadau tribiwnlysoedd gyda chyflogwyr a’r Adran Iechyd.

Rydym yn cyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan, ac mewn rhai achosion ar y cofrestrau’r GMC. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, ym mholisi addasrwydd i ymarfer y GMC ar gyhoeddi a datgelu (Saesneg yn unig).

Rydym yn datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Plant a Grwpiau Hyglwyf 2006.

Rydym yn rhannu penderfyniadau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon. Bydd penderfyniadau Tribiwnlysoedd a gyhoeddir mewn sesiwn gyhoeddus ar gael i'r rheini sy'n arsylwi gwrandawiad. Gellir eu darparu hefyd i newyddiadurwyr at ddibenion adrodd yn deg ac yn gywir ar benderfyniadau tribiwnlys.

Mae gennym gontractau gyda sefydliadau eraill (neu drydydd partïon) i gyflawni gweithgareddau neu wasanaethau penodol ar ein rhan. Os oes angen i ni rannu gwybodaeth â chyflenwyr, rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y canllawiau canlynol:

  • dim ond yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r gwasanaeth
  • cytuno i beidio â defnyddio’r wybodaeth a geir gennym at unrhyw ddiben arall heblaw’r rhai a nodir gennym ni
  • bod â systemau priodol ar waith i ddiogelu data personol.

Cydymaith Meddyg neu Gydymaith Anaesthesia 

Cydymaith Meddyg Cofrestredig (PA), Cydymaith Anaesthesia Cofrestredig (AA), neu Ddarpar Unigolyn Cofrestredig 

Mae Unigolyn Cofrestredig yn golygu Cydymaith Meddyg neu Gydymaith Anaesthesia sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd, gall hefyd olygu cyn Gydymaith Meddyg neu Gydymaith Anaesthesia. Gall hefyd olygu darpar unigolion cofrestredig, gan gynnwys myfyrwyr.

Gwybodaeth am wrandawiadau tribiwnlys a sancsiynau

Pam rydym yn dal y data

O dan Deddf Gorchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddyg 2024 (y Gorchymyn), mae’n ofynnol i ni gael gwybodaeth er mwyn penderfynu a oes amhariad neu nam ar addasrwydd meddyg, cydymaith meddyg (PA) neu gydymaith anaesthesia (AA) i ymarfer.

Rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ein llywodraethu (Saesneg yn unig).

Ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau ar-lein.

Pa ddata rydym yn ei ddal

Rydym yn dal gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynir ac a ystyrir gan aelodau tribiwnlysoedd. Rydym hefyd yn dal gwybodaeth categori arbennig am unigolion, gan gynnwys cofnodion meddygol, pan fo wedi cael ei darparu fel rhan o’r penderfyniad. Rydym yn dal gwybodaeth am iechyd unigolion cofrestredig ac euogfarnau troseddol pan fo hynny’n berthnasol i’r pryder rydym yn ei ystyried.

Sut rydym yn ei rhannu

Mae’r Ddeddf yn mynnu ein bod yn rhannu gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd gorchmynion interim a thribiwnlysoedd cymdeithion gyda chyflogwyr a’r Adran Iechyd.

Rydym yn cyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan, ac mewn rhai achosion ar y cofrestrau’r GMC. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, ym mholisi Cyhoeddi a Datgelu Cofrestriad ar gyfer Cymdeithion Meddyg a Chymdeithion Anaesthesia (Saesneg yn unig).

Rydym yn datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Plant a Grwpiau Hyglwyf 2006.

Rydym yn rhannu penderfyniadau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon. Bydd penderfyniadau Tribiwnlysoedd a gyhoeddir mewn sesiwn gyhoeddus ar gael i'r rheini sy'n arsylwi gwrandawiad. Gellir eu darparu hefyd i newyddiadurwyr at ddibenion adrodd yn deg ac yn gywir ar benderfyniadau tribiwnlys.

Mae gennym gontractau gyda sefydliadau eraill (neu drydydd partïon) i gyflawni gweithgareddau neu wasanaethau penodol ar ein rhan. Os oes angen i ni rannu gwybodaeth â’r sefydliadau eraill, rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y canllawiau canlynol:

  • dim ond yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r gwasanaeth
  • cytuno i beidio â defnyddio’r wybodaeth a geir gennym at unrhyw ddiben arall heblaw’r rhai a nodir gennym ni
  • bod â systemau priodol ar waith i ddiogelu data personol.

Achwynydd neu Dyst

Gwybodaeth am wrandawiadau tribiwnlys a sancsiynau

Pam rydym yn dal y data

We‘re required under the Ddeddf Meddygaeth 1983 (y Ddeddf) a Deddf Gorchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddyg 2024 (y Gorchymyn), mae’n ofynnol i ni gael gwybodaeth er mwyn penderfynu a oes amhariad neu nam ar addasrwydd meddyg, cydymaith meddyg (PA) neu gydymaith anaesthesia (AA) i ymarfer.  

Rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ein llywodraethu (Saesneg yn unig).

Ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau ar-lein.

Pa ddata rydym yn ei ddal

Rydym yn dal gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan ein tribiwnlysoedd yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynir ac a ystyrir gan aelodau tribiwnlysoedd. Rydym hefyd yn dal gwybodaeth categori arbennig am unigolion, gan gynnwys cofnodion meddygol, pan fo wedi cael ei darparu fel rhan o’r penderfynia.

Sut rydym yn ei rhannu

Mae’r Ddeddf a’r Gorchymyn yn mynnu ein bod yn rhannu gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan dribiwnlysoedd gorchmynion interim a gwrandawiadau tribiwnlysoedd gyda chyflogwyr a’r Adran Iechyd.

Rydym yn cyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan, ac mewn rhai achosion ar y cofrestrau’r GMC. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys cyfnodau perthnasol, ym mholisi’r GMC ar gyhoeddi a datgelu (Saesneg yn unig).

Rydym yn datgelu bwndeli gwrandawiadau tribiwnlys i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Plant a Grwpiau Hyglwyf 2006.

Rydym yn rhannu penderfyniadau diweddar gyda chyrff yn y DU a thramor sydd â buddiant dilys neu statudol yn yr wybodaeth hon. Bydd penderfyniadau Tribiwnlysoedd a gyhoeddir mewn sesiwn gyhoeddus ar gael i'r rheini sy'n arsylwi gwrandawiad. Gellir eu darparu hefyd i newyddiadurwyr at ddibenion adrodd yn deg ac yn gywir ar benderfyniadau tribiwnlys.

Mae gennym gontractau gyda sefydliadau eraill (neu drydydd partïon) i gyflawni gweithgareddau neu wasanaethau penodol ar ein rhan. Os oes angen i ni rannu gwybodaeth â’r sefydliadau eraill, rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y canllawiau canlynol:

  • dim ond yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r gwasanaeth
  • cytuno i beidio â defnyddio’r wybodaeth a geir gennym at unrhyw ddiben arall heblaw’r rhai a nodir gennym ni
  • bod â systemau priodol ar waith i ddiogelu data personol.

Staff neu Gymdeithion y MPTS

Recriwtio

Mae hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer staff a Chymdeithion presennol y MPTS ar gael ar ein tudalen we fewnol.