1. Home
  2. Privacy and cookies
  3. Research consultations and audits
Hysbysiad preifatrwydd a chwcis

Ymchwil, ymgynghoriadau ac archwiliadau

Ymchwil

Rydym yn cynnal ymchwil ac arolygon ar amrywiaeth o bynciau i gefnogi ein swyddogaethau rheoleiddio sy’n ymwneud â chofrestru, addasrwydd i ymarfer, ac addysg a hyfforddiant.

Rydym yn cynhyrchu data ystadegol yn seiliedig ar yr wybodaeth rydym yn ei dal, er enghraifft GMC Data Explorer (Saesneg yn unig).

Rydym yn cynnal ymchwil yn fewnol neu mewn partneriaeth â thrydydd partïon. Gall y GMC ariannu cydweithio â sefydliadau ymchwil trydydd parti.

Ymgynghoriadau a fforymau

Rydym yn cynnal ymgynghoriadau ar amrywiaeth o bynciau ac yn hwyluso fforymau cynghori sy’n gysylltiedig â’n swyddogaethau rheoleiddio. Er bod gennym ddiddordeb dilys mewn cysylltu â charfannau perthnasol, gallant optio allan ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni.

Pam rydym yn dal y data

Rydym yn gofyn i ymatebwyr am eu cyfeiriadau e-bost er mwyn i ni allu cadarnhau eu bod wedi cofrestru ar ein safle ymgynghori, cysylltu â nhw os ydynt yn anghofio eu cyfrinair a rhoi gwybod iddynt am unrhyw ymgynghoriadau sydd ar y gweill sy’n cyd-fynd â’u diddordebau, pan ydynt wedi gofyn i ni wneud hynny. Fel rhan o’r broses o ddadansoddi'r ymgynghoriad, rydym yn prosesu enwau a gwybodaeth gyswllt yr ymatebwyr, yn ogystal â’u hatebion.

Pa ddata rydym yn ei ddal

Rydym yn dal yr wybodaeth hon er mwyn i ni allu ymchwilio a dadansoddi’r ymatebion, a chadw mewn cysylltiad ag ymatebwyr ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad. 

Sut rydym yn ei rhannu

Ar ddiwedd y broses ymgynghori, byddwn yn cyhoeddi adroddiadau yn egluro ein canfyddiadau a’n casgliadau. Ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn yr adroddiadau hyn, ond mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys dyfyniadau enghreifftiol o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhoi ymatebion i drydydd partïon ar gyfer sicrhau ansawdd neu i brosiectau ymchwil cymeradwy, sy’n cael eu troi’n ddienw cyn eu datgelu lle bo hynny’n bosibl.

Archwiliad

Pam rydym yn dal y data

Gallwn rannu data personol at ddibenion archwilio neu ymchwil i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau mewn ffordd deg, gyson a chadarn. Rydym yn cynnal archwiliadau yn fewnol neu’n eu comisiynu gyda sefydliadau annibynnol.

Pa ddata rydym yn ei ddal

Mae modd hefyd i'r data personol a ddefnyddiwn i gyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio gael ei ddefnyddio at ddibenion archwiliad. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth cofrestru, gwybodaeth ddemograffig, cyflogaeth a hanes addasrwydd i ymarfer, a manylion cwynion.

Sut rydym yn ei rhannu

Rydym yn rhannu data personol ag archwilwyr os oes angen gwneud hynny. Byddwn yn rhannu’r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer yr archwiliad yn unig, a hynny gan ddefnyddio dulliau diogel. Pan fyddwn yn cyhoeddi adroddiadau archwilio neu ystadegau, rydym yn defnyddio rheolaethau datgelu i wneud yn siŵr nad oes modd adnabod unigolion o’r data.