1. Home
  2. Witnesses
  3. Witness guide to hearings
  4. Giving evidence

Rhoi tystiolaeth

Beth fydd gofyn i chi ei wneud

Pan gewch eich galw i roi tystiolaeth, bydd aelod o staff - fel arfer cynorthwyydd y tribiwnlys - yn mynd â chi i ystafell y gwrandawiad ac yn eich tywys i ddesg y tystion.

Wedyn, bydd gofyn i chi dyngu llw crefyddol, neu gadarnhau gwirionedd eich tystiolaeth (gweler isod).

Bydd cadeirydd y tribiwnlys wedyn yn cyflwyno ei hun a phobl eraill sy’n rhan o’r gwrandawiad.

Fe welwch feicroffon ar y ddesg o’ch blaen. Dylech ei ddefnyddio pan fyddwch yn siarad. Mae’r meicroffonau yn recordio’r gwrandawiadau.

Sut i roi tystiolaeth

Mae’n help os ydych chi’n gwneud y canlynol:

  • cymryd eich amser i feddwl am y cwestiynau a ofynnir i chi
  • dweud wrth y tribiwnlys os nad ydych yn deall cwestiwn neu os nad ydych yn gwybod yr ateb
  • siarad yn glir ac yn araf i mewn i’r meicroffon.

Beth fydd gofyn i chi ei ddweud

Yn gyntaf, bydd gofyn i chi gadarnhau eich enw ac a yw’r hyn rydych wedi’i ddweud yn eich datganiad tyst yn wir. Cynrychiolydd cyfreithiol y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu’r meddyg fydd yn gofyn hyn – pa un bynnag o’r rhain sydd wedi’ch galw chi i fod yn dyst. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn cwestiynau am eich datganiad.

Ar ôl hyn, bydd y cynrychiolydd sy’n gweithredu ar ran y parti arall yn debygol o ofyn cwestiynau i chi am eich datganiad. Cyfeirir at hyn yn aml fel croesholi. Mae’n bosibl y bydd gan y tribiwnlys gwestiynau hefyd.

Tra byddwch yn rhoi eich tystiolaeth, efallai y dangosir dogfennau i chi. Mae’n bosibl na fyddwch wedi gweld rhai o’r dogfennau hyn o’r blaen. Dylech gymryd eich amser i ddarllen pob dogfen cyn ateb unrhyw gwestiynau.

Rhowch wybod i ni os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i ddogfen rydych chi’n cael eich cyfeirio ati, a bydd aelod o staff yn eich helpu.

 

Egwyliau yn ystod y gwrandawiad

Bydd y gwrandawiad yn cael ei ohirio (egwyl) o bryd i’w gilydd. Gall hyn fod ar gyfer pethau fel egwyliau cysur neu ginio, neu ar ddiwedd pob dydd os bydd y gwrandawiad yn para am fwy nag un diwrnod.

Gall y gwrandawiad hefyd dorri am egwyl os ydych yn teimlo bod angen seibiant arnoch wrth roi tystiolaeth. Os felly, rhowch wybod i ni.

Cofiwch: chewch chi ddim sgwrsio gydag unrhyw un am yr achos nac am eich tystiolaeth yn ystod unrhyw egwyl. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n ymwneud â’r achos, yn ogystal â’ch teulu neu’ch ffrindiau.

Os byddwch yn sgwrsio gyda phobl eraill, gallai gael effaith ddifrifol ar ganlyniad y gwrandawiad.

Llwon a datganiadau crefyddol

Gallwch ddewis tyngu llw ar unrhyw un o’r llyfrau sanctaidd canlynol: 

  • Cristnogaeth – Testament Newydd
  • Hindŵaidd – Gita
  • Iddewaidd – Tanakh
  • Mwslimaidd – Quran
  • Sikhaidd – Sundar Gutka

Fel arall, mae’r datganiadau crefyddol canlynol ar gael:

  • Datganiad Bwdhaidd
  • Datganiad ar gyfer tystion Morafaidd
  • Datganiad ar gyfer Crynwyr

Datganiadau anghrefyddol

Gallwch roi datganiad cyffredinol – datganiad anghrefyddol yw hwn, sy’n datgan eich bwriad i ddweud y gwir wrth roi tystiolaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am dyngu llw neu am roi datganiad, siaradwch ag aelod o’n staff neu’r cynrychiolydd sydd wedi gofyn i chi roi tystiolaeth.