Ar ôl rhoi tystiolaeth
Gallwch aros yn y gwrandawiad
Gallwch adael yr ystafell ar ôl i chi roi eich tystiolaeth, neu gallwch aros a gwylio gweddill y gwrandawiad. Os byddwch yn siarad ag aelod o staff, byddant yn dangos i chi ble i eistedd.
Os ydych chi wedi rhoi tystiolaeth o bell neu mewn gwrandawiad rhithiol, llenwch y ffurflen hon i barhau i arsylwi’r gwrandawiad. Os yw’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn ein canolfan gwrandawiadau a’ch bod wedi rhoi tystiolaeth o bell, efallai na fydd yn bosibl i chi barhau i arsylwi.
Byddwn yn cyhoeddi’r canlyniad
Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi penderfyniadau’r tribiwnlys ar ein gwefan o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben.
Gallwch hefyd ofyn i'r cynrychiolydd cyfreithiol neu’r parti yr ydych yn rhoi tystiolaeth ar ei gyfer (y GMC neu'r meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia) ddweud wrthych beth yw canlyniad y gwrandawiad, neu anfon penderfyniad y tribiwnlys atoch.