1. Home
  2. Witnesses
  3. Witness guide to hearings
  4. At the hearing

Yn y gwrandawiad

Ble y caiff gwrandawiadau eu cynnal?

Mae ein canolfan wrandawiadau ar y 7fed llawr yn Adeiladau St James yn Oxford Street, Manceinion.

Pan fyddwch yn cyrraedd

Ceisiwch gyrraedd o leiaf hanner awr cyn y disgwylir i chi roi tystiolaeth.

Dylech ddod i’n derbynfa ar y 7fed llawr, lle byddwn yn gofyn i chi fewngofnodi. Byddwn hefyd yn rhoi pas ymwelydd i chi. Wedyn, byddwn yn eich tywys i fan aros.

Os ydych chi’n poeni am gwrdd ag unrhyw un sy’n ymwneud â’r achos pan fyddwch chi’n cyrraedd, mae’n bosibl y bydd modd i rywun gwrdd â chi a’ch tywys i ystafell aros breifat. Dylech roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw bryderon o’r fath.

Yn anffodus, allwn ni ddim bod yn sicr na fyddwch yn cwrdd â phobl eraill sy’n gysylltiedig â’r achos.

Os yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi gofyn i chi roi tystiolaeth, bydd aelod o’u tîm cyfreithiol yn dod i gyflwyno eu hunain ar ôl i chi gael eich tywys i’r man aros.

Os bydd y meddyg wedi gofyn i chi roi tystiolaeth, byddwn yn rhoi gwybod iddyn nhw neu eu cynrychiolwyr ar ôl i chi gyrraedd.

 

Aros i roi tystiolaeth

Gallwch aros yn un o’n hystafelloedd aros nes bydd y tribiwnlys yn galw arnoch i roi tystiolaeth. Allwch chi ddim mynd i'r gwrandawiad cyn hynny.

Mae gennym fannau aros cyhoeddus, a mannau aros ar gyfer tystion yn unig. Gallwch aros lle rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus. Ond, gwnewch yn siŵr bod aelod o staff yn gwybod ble rydych chi.

Tra byddwch chi’n aros, peidiwch â thrafod yr achos na’ch tystiolaeth gyda neb. Gallai hyn effeithio ar ganlyniad y gwrandawiad.

Rydym yn ceisio delio ag achosion cyn gynted â phosibl. Ond weithiau gall gwrandawiadau redeg yn rhy hir, felly mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi aros rywfaint o amser cyn i chi roi tystiolaeth. Bydd aelod o staff yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am amseriad yr achos, lle bo hynny’n bosibl.

Os na allwch roi tystiolaeth ar y diwrnod penodedig oherwydd oedi neu newid mewn amgylchiadau, bydd gofyn i chi ddychwelyd ar ddiwrnod arall.

Cwestiynau am y gwrandawiad  

Os oes gennych chi gwestiynau am y gwrandawiad, siaradwch ag aelod o’n staff neu’r cynrychiolydd cyfreithiol (ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu’r meddyg) a wnaeth alw arnoch chi. 

Cyfleusterau sydd ar gael i chi

Lluniaeth

Mae te, coffi a dŵr ar gael ym mhob man aros. Mae peiriant gwerthu bwyd a diod yn y man aros cyhoeddus ar y 7fed llawr..

Ystafell aml-ffydd 

Mae ein hystafell aml-ffydd yn lle croesawgar a hygyrch i bobl o bob ffydd a thraddodiadau. Mae gennym gyfleusterau ymolchi hefyd, ac mae croeso i chi eu defnyddio i olchi er mwyn paratoi i weddïo.

Amwynderau lleol 

Mae sawl caffi, bwyty a siop o fewn ychydig o funudau i’n canolfan wrandawiadau. Rhowch wybod i’r cynrychiolydd cyfreithiol priodol neu aelod o staff os byddwch yn gadael y ganolfan wrandawiadau. Efallai yr hoffech adael rhif ffôn, rhag ofn y bydd angen i ni gael gafael arnoch chi os ydych chi wedi gadael yr adeilad.