Beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad
Mae hyd at dri cham mewn gwrandawiad. Isod, rydym yn egluro beth yw pob cam a beth sy’n digwydd.
Cam un: canfod ffeithiau
Mae’r tribiwnlys yn gwrando ar yr holl dystiolaeth ac yn darllen unrhyw ddogfennau perthnasol, ac wedyn mae’n penderfynu a yw unrhyw un o’r ffeithiau honedig wedi’u profi yn ôl pwysau tebygolrwydd. Gall y meddyg hefyd gyfaddef i ffeithiau honedig yn ystod y cam hwn.
Os bydd y tribiwnlys yn penderfynu nad yw’r honiad wedi’i brofi, bydd y gwrandawiad yn dod i ben.
Os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod unrhyw rai o’r ffeithiau honedig wedi’u profi, bydd y gwrandawiad yn parhau i gam dau.
Cam dau: amhariad
Mae’r tribiwnlys yn ystyried a oes amhariad ar addasrwydd presennol y meddyg i ymarfer meddygaeth, sef a yw’n ddiogel i’r meddyg barhau i weithio ym maes meddygaeth ac i drin cleifion.
Mae penderfyniad y tribiwnlys yn seiliedig ar y ffeithiau a brofwyd gan y tribiwnlys ac unrhyw dystiolaeth berthnasol arall a gyflwynwyd.
Os bydd y tribiwnlys yn canfod nad oes amhariad ar addasrwydd y meddyg i ymarfer, ni fydd y gwrandawiad yn parhau i gam tri. Mae’n bosibl y bydd y tribiwnlys yn penderfynu rhoi rhybudd ar gofrestriad y meddyg yn yr achos hwn. Nid yw rhybudd yn cyfyngu ar gofrestriad meddyg, nac ar ei hawl i barhau i drin cleifion.
Os bydd y tribiwnlys yn canfod bod amhariad ar addasrwydd y meddyg i ymarfer, bydd y gwrandawiad yn parhau i gam tri.
Cam tri: sancsiwn
Gall cynrychiolwyr y meddyg a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gynnig beth ddylai’r sancsiwn priodol fod yn eu barn nhw, os o gwbl.
Gall y meddyg neu ei gynrychiolydd gyflwyno tystiolaeth am gymeriad y meddyg hefyd.
Rhaid i’r tribiwnlys benderfynu pa gamau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu’r cyhoedd. Gall y tribiwnlys wneud y canlynol:
- dod â’r achos i ben heb gymryd camau pellach
- derbyn ymrwymiadau gwirfoddol a gynigir gan y meddyg, os yw hynny’n briodol
- gosod amodau ar gofrestriad y meddyg am hyd at dair blynedd
- atal cofrestriad y meddyg am hyd at flwyddyn
- dileu enw'r meddyg oddi ar y gofrestr feddygol (ac eithrio mewn achosion sydd ond yn ymwneud â gallu iechyd neu iaith meddyg).
Os bydd meddyg yn cael ei atal rhag ymarfer, neu os gosodir amodau arno, gall y tribiwnlys orchymyn gwrandawiad adolygu (gweler isod) i benderfynu a all ddychwelyd i ymarfer heb gyfyngiadau neu a oes angen cosb arall.
Pryd mae sancsiynau’n dod i rym?
Bydd y sancsiynau’n dod i rym 28 diwrnod ar ôl i’r meddyg gael gwybod am benderfyniad y tribiwnlys.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan y meddyg a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol hawl i apelio i’r llys perthnasol.
Os tybir bod angen amddiffyn y cyhoedd ar unwaith, gall y tribiwnlys orchymyn i atal cofrestriad y meddyg ar unwaith yn ystod y cyfnod apelio, neu i osod amodau ar unwaith.
Gwrandawiadau Adolygu
Pan fo tribiwnlys wedi gosod amodau ar gofrestriad meddyg neu wedi atal cofrestriad meddyg, gall y tribiwnlys orchymyn gwrandawiad adolygu cyn y gall y meddyg ddychwelyd i ymarfer heb gyfyngiadau.
Mewn gwrandawiad adolygu, bydd tribiwnlys newydd yn penderfynu a oes amhariad o hyd ar addasrwydd meddyg i ymarfer. Gall y tribiwnlys osod rhagor o sancsiynau os bydd angen.