Y cymorth sydd ar gael i dystion
- Crynodeb
- Y cymorth sydd ar gael i dystion
- Camau gwrandawiad
- Yn y gwrandawiad
Mae’n syniad da siarad, a gwneud hynny’n gynnar
Dylech drafod unrhyw bryderon sydd gennych cyn gynted â phosibl.
Os yw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi gofyn i chi fod yn dyst, siaradwch â’u pwynt cyswllt yn y fan honno.
Os gofynnwyd i chi fod yn dyst i’r meddyg, siaradwch â’u tîm cyfreithiol – neu’r meddyg os ydyn nhw’n cynrychioli eu hunain.
Byddant yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Addasu i’ch anghenion
Rydym yn gwybod ei fod yn brofiad anghyfarwydd bod yn dyst. Gall fod hyd yn oed yn anoddach os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol, neu os ydych yn dioddef anhawster mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Os ydych chi’n poeni am roi tystiolaeth, efallai y gallwn wneud newidiadau i’ch helpu. Gallwn hefyd roi mesurau arbennig ar waith i’ch helpu i roi tystiolaeth.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud y canlynol:
- penodi cyfreithiwr i ofyn cwestiynau i chi yn lle’r meddyg, os ydynt yn cynrychioli eu hunain.
- darparu sgriniau ar gyfer tystion i’ch gwarchod tra byddwch yn rhoi tystiolaeth, neu mae’n bosibl y byddwch yn gallu rhoi tystiolaeth drwy ddolen fideo
- trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol os bydd angen i chi gyfathrebu mewn iaith heblaw Saesneg
- trefnu i chi gael gweld ystafell y gwrandawiad cyn i chi roi tystiolaeth.
Ar gyfer llawer o’r addasiadau hyn, rhaid i’r cynrychiolydd cyfreithiol perthnasol (ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu’r meddyg) ofyn i’r tribiwnlys benderfynu ar yr addasiadau, felly mae’n bwysig ein bod yn cael gwybod am eich anghenion cyn gynted â phosibl.
Siaradwch â’ch pwynt cyswllt ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu’r meddyg cyn gynted â phosibl.
Cael cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim
Gallwch gael cymorth gan y Gwasanaeth Cymorth Annibynnol. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn unrhyw bryd cyn, yn ystod neu ar ôl gwrandawiad. Maen nhw’n wasanaeth cymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim dros y ffôn sy’n cael ei gynnal gan Cymorth i Ddioddefwyr.
Gallwch gael sgwrs gyda’r gwasanaeth am sut rydych chi’n teimlo ac am beth i’w ddisgwyl. Gallant hefyd eich cyfeirio at sefydliadau cymorth arbenigol.
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch eu ffonio ar 0300 303 3709.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein ar ein gwefan Gwasanaeth Cymorth Annibynnol:
Gwrandawiadau rhithiol
Rydym yn cynnal rhai gwrandawiadau’n rhithiol, gan ddefnyddio MS Teams.
Mae ein tudalen gwrandawiadau rhithiol yn rhoi cyngor ymarferol ar ymuno a chymryd rhan mewn gwrandawiadau rhithiol.