Monitro ac adrodd
- Mae cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn gyfrifoldeb traws-sefydliadol a gefnogir gan ein Uwch Dîm Rheoli a Noddwr y Gymraeg, sef Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol y GMC ar hyn o bryd.
- Rheolwr Safonau'r Gymraeg a Phennaeth GMC Cymru sy’n gyfrifol am fonitro, adrodd a sicrhau ansawdd.
- Byddwn yn goruchwylio ac yn monitro cydymffurfiaeth drwy archwiliadau, adolygiadau, adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid, gwiriadau sicrhau ansawdd, a chanlyniadau unrhyw gwynion neu sylwadau a gyflwynir i ni neu Gomisiynydd y Gymraeg.
- Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ein gwefan, a fydd yn cynnwys mewnbwn gan dimau perthnasol, gan gynnwys yr MPTS.