Beth yw Safonau’r Gymraeg?
Mae Safonau’r Gymraeg, a gyflwynwyd fel rhan o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn darparu fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi’r hawl i unigolion yng Nghymru dderbyn gwasanaethau penodol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, fe wnaeth y Mesur greu rôl Comisiynydd y Gymraeg, sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â’r Safonau.