Pa feysydd o'n gwaith sy'n cael eu cynnwys yn y safonau?
- Crynodeb
- Beth yw Safonau’r Gymraeg?
- Ein hymrwymiad i siaradwyr Cymraeg
- Pa feysydd o'n gwaith sy'n cael eu cynnwys yn y safonau?
- Negeseuon e-bost a llythyrau
- Galwadau ffôn
Rhestrir y safonau sy'n berthnasol i'n gwaith yn yr hysbysiad cydymffurfio gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Maent yn cynnwys safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion.
Yn unol â'r diffiniadau a gynhwysir yn y Rheoliadau, mae'r rhan fwyaf o'r safonau y mae ein gwaith yn ddarostyngedig iddynt wedi'u hanelu at ‘unigolion’ – aelod o'r cyhoedd sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy’n gweithredu yn rhinwedd eu gallu personol, ac eithrio unigolion sy'n gweithredu yn rhinwedd eu swydd fel cofrestreion. Wrth gymhwyso'r safonau i'n gwaith, rydym yn deall bod ‘unigolion’ yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd.
Anelir rhai o’r safonau at gynulleidfaoedd gwahanol, sy’n cael eu diffinio mewn perthynas â’n gwaith isod:
- Person: Grŵp cyffredinol sy’n cynnwys aelodau o'r cyhoedd a meddygon.
- Cofrestreion: unigolyn sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru gyda ni.
- Aelodau staff: gweithiwr MPTS neu unigolyn naturiol sy’n gweithio i ni, ac eithrio aelodau tribiwnlys.
Mae’r safonau yn berthnasol i’r meysydd gwaith canlynol:
- Anfon ac ymateb i ohebiaeth
- Ateb galwadau ffôn
- Ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
- Ffurflenni a dogfennau
- Achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â gweithdrefnau’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Ymarferwyr Meddygol (MPTS)
- Penderfyniadau gweithredol
- Cadw cofnodion a rheoli cwynion