Ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
- Ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
- Sylwadau a chwynion am ein gwaith
- Achosion cyfreithiol
- Ein hymrwymiad fel cyflogwr
- Monitro ac adrodd
- Mae gwybodaeth amdanom ni a'r gwasanaethau a ddarparwn, gan gynnwys ein cynnig Cymraeg a sut y gellir ei gyrchu, i gyd ar gael yn ddwyieithog ar ein gwefan.
- Byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe Cymraeg ar yr un pryd ag y byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe Saesneg cyfatebol.
- Bydd ein hadroddiad blynyddol nesaf ar gael yn Gymraeg, a byddwn yn sicrhau ei fod mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys drwy hyrwyddo'r fersiwn Gymraeg o fewn y cyhoeddiad Saesneg.
- Pan fyddwn yn rhannu cynnwys sy’n berthnasol i Gymru yn unig trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol yr MPTS, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog.
- Pan fyddwn yn derbyn ymholiadau uniaith Gymraeg ar ffurf negeseuon uniongyrchol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, os oes angen ateb, byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb oedi ychwanegol.