Ein hymrwymiad fel cyflogwr
- Ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
- Sylwadau a chwynion am ein gwaith
- Achosion cyfreithiol
- Ein hymrwymiad fel cyflogwr
- Monitro ac adrodd
- Fel rhan o’r GMC, wrth recriwtio staff, bydd yr MPTS yn ystyried a yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, angen eu dysgu, neu ddim yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw swydd newydd neu swydd wag.
- Byddwn yn hysbysebu unrhyw swydd newydd neu swydd wag yn y Gymraeg, lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, neu angen eu dysgu.
- Lle bo'n berthnasol, byddwn yn croesawu ceisiadau am swyddi yn Gymraeg, ac yn rhoi'r opsiwn i ymgeiswyr gynnal eu cyfweliad a/neu eu hasesiad yn Gymraeg, gan ddarparu cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg os oes angen.
Cefnogi ein staff
Er mwyn ein helpu i gydymffurfio â'r safonau newydd, rydym yn cynnig adnoddau a chanllawiau pwrpasol i'n staff i'w cefnogi i ddeall a chymhwyso'r safonau i'w gwaith.Fel rhan o hyn:
- Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithiwr newydd a chyfredol gwblhau cwrs e-ddysgu ar ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, ein dyletswyddau o dan y safonau, a sut y gellir defnyddio'r iaith yn y gweithle. Ategir hyn gan ymgysylltu strategol a chodi ymwybyddiaeth ar ddyddiadau nodedig.
- Rydym yn darparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith i’n gweithwyr fynychu gwersi Cymraeg sylfaenol, a hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, fel rhan o’n cynnig dysgu a datblygu.