Achosion cyfreithiol
- Cydnabyddwn hawl cofrestreion i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod gwrandawiadau.
- Yn unol â’r safonau, pan fyddwn yn cysylltu â chofrestrydd am y tro cyntaf mewn perthynas ag achos cyfreithiol, byddwn yn mynd ati i gynnig hwyluso eu dewis iaith mewn gohebiaeth sy'n ymwneud â'u gwrandawiad.
- Byddwn hefyd yn cynnig darparu unrhyw gopïau o ffurflenni a dogfennau a gynhyrchwn mewn perthynas â'r gwrandawiad yn Gymraeg os caiff y cynnig ei dderbyn. Ni fyddwn yn trin cynhyrchu'r ffurflenni neu'r dogfennau hyn yn llai ffafriol na'r rhai a gynhyrchwn yn Saesneg. Ni fyddwn ychwaith yn trin unrhyw ffurflenni neu ddogfennau sy'n ymwneud â'r gwrandawiad a gyflwynwyd gan gofrestrydd yn y Gymraeg yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynwyd yn Saesneg.
- Pan fyddwn yn cysylltu â chofrestrydd am y tro cyntaf, byddwn yn mynd ati i gynnig hwyluso eu dewis iaith yn ystod achosion cyfreithiol, er enghraifft, drwy sicrhau fod cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg ar gael yn ystod cyflwyniadau llafar neu dystiolaeth y cofrestrydd.
- Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cydymffurfio â'r safonau yn ymwneud â gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer ar dudalen gwe Tudalen we Safonau’r Gymraeg ar wefan GMC.